Beirut (Arabeg: بيروت ; Ffrangeg: Beyrouth) yw prifddinas Libanus er 1941. Lleolir Senedd Libanus a sedd llywodraeth y wlad yno. Mae'n gorwedd ar bentir, ar lan y Môr Canoldir a hi yw prif borthladd y wlad. Saif i'r gorllewin o Fynydd Libanus sy'n rhoi ffurf triongl i'r ddinas. Gan na fu cyfrifiad yno ers blynyddoedd mae'r amcangyfrifon o'i phoblogaeth yn amrywio o rhwng 1 a 2 filiwn o bobl.

Beirut
Mathprifddinas, dinas fawr, endid tiriogaethol gweinyddol Edit this on Wikidata
Poblogaeth2,421,354 Edit this on Wikidata
Cylchfa amserUTC+2, UTC+03:00 Edit this on Wikidata
Gefeilldref/i
NawddsantSiôr Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirBeirut Governorate Edit this on Wikidata
GwladBaner Libanus Libanus
Arwynebedd20,000,000 m² Edit this on Wikidata
Uwch y môr0 metr Edit this on Wikidata
GerllawY Môr Canoldir Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau33.8869°N 35.5131°E Edit this on Wikidata
Map
Y Corniche, Beirut

Hanes golygu

Roedd y ddinas ym meddiant y Tyrciaid am ganrifoedd nes i Ffrainc ei chipio ar ddiwedd y Rhyfel Byd Cyntaf. Pan enillodd Libanus ei hannibyniaeth yn 1941 dewisiwyd Beirut yn brifddinas iddi.

Dioddefodd y ddinas ddifrod sylweddol yn ystod y rhyfel cartref (1973-1976) ac eto yn 1982 pan ymosododd byddin Israel arni er mwyn gorfodi'r PLO i ymadael.

Datblygiadau diweddar golygu

Yn 2006 cafodd y ddinas ei tharo nifer o weithiau gan lu awyr Israel gan ladd rhai cannoedd o bobl a dinistrio rhannau o'r ddinas, yn arbennig maerdvefi y de ac ardal y maes awyr. Ym Mai 2008 ceisiodd Llywodraeth y wlad esgymuno aelodau o Hezbollah: penderfyniad y bu iddi'n ddiweddarach wrthdroi oherwydd y protestio a gwrthdystio cyhoeddus. Yn dilyn ymyrraeth gan Dywysog Qatar sefydlwyd Llywodraeth newydd gyda Phrifweinidog newydd yn ei harwain.

Enwogion golygu

  Eginyn erthygl sydd uchod am Libanus. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.