Ychwanegiad at Lyfr Daniel ac un o Apocryffa'r Hen Destament yw Bel a'r Ddraig. Cynhwysir ym Meiblau'r Eglwys Gatholig Rufeinig a'r Eglwys Uniongred Ddwyreiniol ar ffurf pennod 14 Llyfr Daniel. Weithiau caiff ei gynnwys ymhlith yr Apocryffa mewn Beiblau Protestannaidd, er enghraifft Beibl Saesneg y Brenin Iago. Nid yw'n ymddangos yn y Beibl Hebraeg.

Mân-ddarlun o Fel, Daniel, a'r ddraig o lawysgrif goliwiedig Ffrengig o'r 15g

Traddodir dwy chwedl am y proffwyd Daniel yn y testun hwn. Yn y stori gyntaf, mae Daniel yn dangos bod Bel, duw Babilon, yn dda i ddim drwy brofi bod y bwyd a offrymwyd iddo yn cael ei fwyta mewn gwirionedd gan yr offeiriaid. Yn yr ail stori, sonir am Daniel yn lladd y ddraig a anrhydeddir gan y Babiloniaid, a'i ddihangfa o wâl llewod a gafodd ei daflu ynddi yn gosb. Nod y ddwy chwedl yw i ddilorni eilunaddoliaeth.