Cenedl a grŵp ethnig Slafig sydd yn frodorol i wlad Belarws yn Nwyrain Ewrop yw'r Belarwsiaid. Belarwseg yw eu hiaith frodorol, er bod Rwseg yn iaith ddyddiol y mwyafrif erbyn heddiw. Maent yn cyfrif am ryw 84% o boblogaeth Belarws. Maent yn un o'r bobloedd Slafig Ddwyreiniol ac yn perthyn yn agos i'r Rwsiaid, yr Wcreiniaid a'r Rwtheniaid.

Belarwsiaid
Hen ffotograff o'r werin Felarwsiaidd o ardal Babruysk.
Cyfanswm poblogaeth
9–10 miliwn
Ardaloedd gyda niferoedd sylweddol
Belarws, Rwsia, Yr Wcráin, Latfia, Casachstan, Gwlad Pwyl, Lithwania
Ieithoedd
Belarwseg, Rwseg
Crefydd
Eglwys Uniongred Ddwyreiniol, Yr Eglwys Babyddol
Grwpiau ethnig perthynol
Rwsiaid, Wcreiniaid, Rwtheniaid

Diwylliant golygu

Mae gwybodaeth o lên gwerin yn parhau yng nghefn gwlad Belarws, er bod nifer o hen draddodiadau'r werin wedi darfod o ganlyniad i drefoli.

Crefydd golygu

Mae'r mwyafrif o Felarwsiaid yn aelodau'r Eglwys Uniongred Ddwyreiniol. Yn hanesyddol, yr Eglwys Uniongred Rwsiaidd oedd y brif eglwys ym Melarws, a dim ond ychydig o offeiriaid oedd yn pregethu drwy gyfrwng y Felarwseg.

Cyfeiriadau golygu