Bella Akhmadulina

actores a aned ym Moscfa yn 1937

Bardd Sofietaidd oedd Izabella Akhatovna Akhmadulina (Bella Akhmadulina fel arfer; 10 Ebrill 1937 - 29 Tachwedd 2010) sy'n cael ei hystyried hefyd yn nodigedig am ei gwaith fel awdur storiau byrion, cyfieithydd, dramodydd, sgriptiwr ac actor. Ei henw yn Rwsieg yw Бе́лла (Изабе́лла) Аха́товна Ахмаду́лина, ac yn Tatar: Белла Әхәт кызы Әхмәдуллина. Nid oedd ots ganddi lawer am wleidyddiaeth, ac nid oedd yn ymddangos yn ei gwaith mewn unrhyw fodd.[1][2][3]

Bella Akhmadulina
Ganwyd10 Ebrill 1937 Edit this on Wikidata
Moscfa Edit this on Wikidata
Bu farw29 Tachwedd 2010 Edit this on Wikidata
o clefyd cardiofasgwlar Edit this on Wikidata
Peredelkino Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Rwsia Rwsia
Alma mater
  • Sefydliad Llenyddol Maxim Gorky Edit this on Wikidata
Galwedigaethbardd, cyfieithydd, ysgrifennwr, dramodydd, sgriptiwr, actor Edit this on Wikidata
Arddulltelyneg Edit this on Wikidata
PriodYevgeny Yevtushenko, Yuri Nagibin, Eldar Kuliev Edit this on Wikidata
Gwobr/auGwobr Gladwriaeth yr USSR, Gwobr Pushkin, urdd am Wasanaeth dros yr Henwlad, Dosbarth II, Urdd Teilyngdod "Am waith dros yr Henwlad", Dosbarth III, Urdd Cyfeillgarwch y Bobl Edit this on Wikidata
llofnod

Fe'i ganed yn Moscfa, prifddinas Rwsia a bu farw yn Peredelkino, i'r de=orllewin o Moscfa, o afiechyd y system cardiofasgwlaidd; fe'i chladdwyd ym Mynwent Novodevichy.[4][5][6][7][8][9]

Roedd yn rhan o'r ysgol Sofietaidd honno o ysgrifenwyr a elwir yn "Fudiad y Don Newydd". Cyfeiriwyd ati gan Joseph Brodsky fel y bardd cyfoes mwyaf sy'n sgwennu mewn Rwsieg a gan drigolion Rwsia fel "Llais yr Epoc" (neu 'gyfnod hir').

Er fod ei sgwennu'n wleidyddol ddiduedd, roedd Akhmadulina yn aml yn feirniadol o awdurdodau yn yr Undeb Sofietaidd, ac yn siarad o blaid pobl eraill, gan gynnwys yr enillwyr Nobel Boris Pasternak, Andrei Sakharov, ac Aleksandr Solzhenitsyn. Roedd hi'n adnabyddus i gynulleidfaoedd rhyngwladol trwy ei theithiau tramor yn ystod cyfnod anodd Nikita Khrushchev, pan ymddangosodd mewn stadia pêl-droed gorlawn. Ar ôl iddi farw yn 2010 yn 73 oed, dywedodd Llywydd Rwsia Dmitry Medvedev bod ei barddoniaeth yn rhan "clasurol o lenyddiaeth Rwsia."[3]

Magwraeth ac addysg golygu

Hi oedd unig blentyn ei rhieni, gyda'i thad yn Tatar a'i mam yn Sofiet-Eidalaidd. Symudodd y pâr i Kazan ar dorriad yr Ail Ryfel Byd.[10]

Dechreuodd gyrfa lenyddol Akhmadulina pan oedd yn ferch ysgol yn gweithio fel newyddiadurwr ym mhapur newydd Moscfa, Metrostroevets, ac mewn cylch llenyddol a drefnwyd gan y bardd Yevgeny Vinokurov. Ymddangosodd ei cherddi cyntaf yn 1955 yn y cylchgrawn Hydref ar ôl cael ei chymeradwyo gan feirdd Sofietaidd cydnabyddiedig.

Ar ôl gorffen yr ysgol, aeth Akhmadulina i Sefydliad Llenyddiaeth Maxim Gorky lle graddiodd ym 1960. Yno, cyhoeddodd ei cherddi a'i herthyglau mewn gwahanol bapurau newydd. Beirniadwyd ei gwaith yn Komsomolskaya Pravda ym 1957. Cafodd ei diarddel o'r coleg am ychydig ym 1959 o ganlyniad i'w gwrthwynebiad i erledigaeth Boris Pasternak, ond caniatawyd iddi ddychwelyd.[10][11]

Yn 1962 cyhoeddwyd casgliad cyntaf ei cherddi, o'r enw Struna (Llinyn), ac roedd yn llwyddiant ysgubol.

Bu'n briod pedair gwaith ac mae ganddi ferch, sydd hefyd yn fardd.

Llyfrau a gyhoeddwyd golygu

  • Struna (Llinyn), Moscow, 1962
  • Oznob (Y Dwymyn), Frankfurt, 1968
  • Uroki Muzyki, (Gwersi Cerdd), 1969
  • Stikhi (Cerddi), 1975
  • Svecha (Y Gannwyll), 1977
  • Sny o Gruzii (Breuddwyd Georgia), 1978–79
  • Metell (Storm-Eira), 1977
  • Taina (Y Gyfrinach), 1983
  • Sad (Yr Ardd), 1987
  • Stikhotvorenie (Cerdd), 1988
  • Izbrannoye (Penillion Dethol), 1988
  • Stikhi (Penillion), 1988
  • Poberezhye (Yr Arfordir), 1991
  • Larets i Kliutch (Casket and Key), 1994
  • Gryada Kamnei (Crib Carreg), 1995
  • Samye Moi Stikhi (Fy Ngherddi fy Hun), 1995
  • Zvuk Ukazuyushchiy (Sain Wurog), 1995
  • Odnazhdy v Dekabre (Diwrnod o Ragfyr), 1996

Aelodaeth golygu

Bu'n aelod o PEN Rhyngwladol am rai blynyddoedd.

Anrhydeddau golygu

  • Dros y blynyddoedd, derbyniodd nifer o anrhydeddau, gan gynnwys: Gwobr Gladwriaeth yr USSR, Gwobr Pushkin, urdd am Wasanaeth dros yr Henwlad, Dosbarth II, Urdd Teilyngdod "Am waith dros yr Henwlad", Dosbarth III, Urdd Cyfeillgarwch y Bobl .


Cyfeiriadau golygu

  1. Bella Akhmadulina Criticism
  2. "Sonia Ketchian: The Poetic Craft of Bella Akhmadulina". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2006-09-01. Cyrchwyd 2019-06-04.
  3. 3.0 3.1 Isachenkov, Vladimir (29 Tachwedd 2010). "Prominent Soviet-era Russian poet Bella Akhmadulina dies at 73". ABC News. Cyrchwyd 29 Tachwedd 2010.
  4. Cyffredinol: http://data.bnf.fr/ark:/12148/cb13483412r. ffeil awdurdod y BnF. dyddiad cyrchiad: 10 Hydref 2015.
  5. Disgrifiwyd yn: https://link.springer.com/chapter/10.1007/978-3-476-03702-2_1. dyddiad cyrchiad: 31 Gorffennaf 2022.
  6. Rhyw: http://data.bnf.fr/ark:/12148/cb13483412r. ffeil awdurdod y BnF. dyddiad cyrchiad: 10 Hydref 2015.
  7. Dyddiad geni: А. М. Прохоров, ed. (1969) (yn ru), Большая советская энциклопедия (3rd ed.), Moscfa: The Great Russian Encyclopedia, OCLC 14476314, Wikidata Q17378135 http://data.bnf.fr/ark:/12148/cb13483412r. ffeil awdurdod y BnF. dyddiad cyrchiad: 10 Hydref 2015. "Bella Akhmadulina". Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Bella Akhmadulina". Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Bella Achmadulina". Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Bella (Isabella) Achatowna Achmadulina". "Bella Akhatovna Akhmadulina". "Bella Ahmadulina". "Bella (Izabella) Ahatovna Ahmadulina".
  8. Dyddiad marw: "Poet Bella Akhmadulina Dead" (yn Saesneg). 29 Tachwedd 2010. Cyrchwyd 24 Awst 2020. http://data.bnf.fr/ark:/12148/cb13483412r. ffeil awdurdod y BnF. dyddiad cyrchiad: 10 Hydref 2015. "Bella Akhmadulina". Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Bella Akhmadulina". Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Bella Achmadulina". Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Bella (Isabella) Achatowna Achmadulina". "Bella Akhatovna Akhmadulina". "Bella Ahmadulina".
  9. Man geni: А. М. Прохоров, ed. (1969) (yn ru), Большая советская энциклопедия (3rd ed.), Moscfa: The Great Russian Encyclopedia, OCLC 14476314, Wikidata Q17378135
  10. 10.0 10.1 "Poetess Akhmadulina dies in Moscow at age of 73". ITAR-TASS. 29 Tachwedd 2010. Cyrchwyd 29 Tachwedd 2010.[dolen marw]
  11. "Great Russian Poetess Bella Akhmadulina Passes Away". Russia-InfoCenter. 29 Tachwedd 2010. Cyrchwyd 29 Tachwedd 2010.