Ben Cabango

Pêl-droediwr o Gymro

Pêl-droediwr proffesiynol o Gymro yw Benjamin Cabango (ganwyd 30 Mai 2000) sy'n chwarae fel amddiffynnwr i Ddinas Abertawe .

Ben Cabango
Ganwyd30 Mai 2000, 23 Mai 2001 Edit this on Wikidata
Caerdydd Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
Galwedigaethpêl-droediwr Edit this on Wikidata
Taldra1.88 metr Edit this on Wikidata
Chwaraeon
Tîm/auC.P.D. Dinas Abertawe, Tîm pêl-droed cenedlaethol Cymru Edit this on Wikidata
Safleamddiffynnwr Edit this on Wikidata
Gwlad chwaraeonCymru Edit this on Wikidata

Bywyd cynnar golygu

Ganwyd Cabango yng Nghaerdydd i dad Angolaidd a mam o Gymru. Mae ganddo frawd iau o'r enw Theo sy'n chwarae rygbi.[1] Mynychodd Ysgol Gyfun Gymraeg Plasmawr.[2][3]

Gyrfa clwb golygu

Dechreuodd Cabango ei yrfa fel chwaraewr ieuenctid gyda'r tîm amatur leol Maindy Corries, lle'r oedd ei dad Paolo yn hyfforddwr, cyn iddo ymuno ag academi ieuenctid Sir Casnewydd,[4] lle chwaraeodd o lefelau dan-13 i lefelau dan-15. Symudodd i'r academi yn Ninas Abertawe lle bu'n gapten ar yr ochr dan-19 i ennill Cwpan Ieuenctid Cymru CBDC yn 2018 a helpodd yr ochr dan-23 i gyrraedd rownd derfynol Cwpan Uwch Gynghrair Lloegr ar gyfer timau dan-23.[2][5]

Ym mis Mehefin 2018, arwyddodd Cabango i bencampwyr Uwch Gynghrair Cymru ar y pryd, Y Seintiau Newydd ar gytundeb benthyciad chwe mis.[2] Gwnaeth ei ymddangosiad cyntaf i'r tîm hŷn mewn gêm lle collwyd 5–0 i dîm Macedoneg KF Shkëndija yng nghymal cyntaf rownd ragbrofol gyntaf Cynghrair Pencampwyr UEFA.[6] Yn y cymal nesaf, sgoriodd Cabango ei gôl gyntaf ar lefel uwch wrth i’r Seintiau Newydd ennill 4–0 ond collasant ar gyfanswm goliau.[7]

Ar 13 Awst 2019, gwnaeth ei ymddangosiad proffesiynol cyntaf dros Abertawe mewn buddugoliaeth 3-1 dros Northampton Town yn rownd gyntaf Cwpan Cynghrair Lloegr.[8] Gwnaeth ei ymddangosiad cyntaf yn y gynghrair fel eilydd yn erbyn Huddersfield Town ar 26 Tachwedd 2019.[9]

Cafodd ei gynnwys yng ngharfan Cymru yn Awst 2020 [10] ac enillodd ei gap cynta dros Gymru ar 3 Medi 2020 mewn gêm yn erbyn y Ffindir yn Helsinki.[11]

Ystadegau gyrfa golygu

Clwb golygu

Diweddarwyd 8 Hydref 2019
Ymddangosiadau a goliau yn ôl clwb, tymor a chystadleuaeth
Clwb Tymor Cynghrair Cwpan FA Cwpan y Gynghrair Arall Cyfanswm
Adran Ymdd Goliau Ymdd Goliau Ymdd Goliau Ymdd Goliau Ymdd Goliau
Dinas Abertawe 2018–19 Pencampwriaeth 0 0 0 0 0 0 - 0 0
2019–20 Pencampwriaeth 0 0 0 0 3 0 - 3 0
Cyfanswm gyrfa 0 0 0 0 3 0 - 3 0

Cyfeiriadau golygu

  1. Thomas, Simon (15 November 2019). "Introducing the Cabango brothers, the super-talented siblings excelling in Welsh rugby and at Swansea City". WalesOnline. Media Wales. Cyrchwyd 6 January 2020.
  2. 2.0 2.1 2.2 Bloor, Stewart (12 June 2018). "Saints Sign Swansea Starlet". The New Saints. Cyrchwyd 13 August 2019.
  3. "Annual Report of the Governing Body 2015–16" (PDF). Ysgol Gyfun Gymraeg Plasmawr. Cyrchwyd 13 August 2019.
  4. Masrani, Daniel (15 August 2015). "Maindy Boy Selected for Welsh Squad". Maindy Corries F.C. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2019-08-13. Cyrchwyd 13 August 2019.
  5. Edwards, Joe (12 June 2018). "The New Saints sign Swansea youngster". Shropshire Star. Cyrchwyd 13 August 2019.
  6. "KF Shkendija 5–0 The New Saints". BBC Sport. 10 July 2018. Cyrchwyd 13 August 2019.
  7. "The New Saints 4–0 KF Shkendija". BBC Sport. 17 July 2018. Cyrchwyd 13 August 2019.
  8. "Swansea City 3–1 Northampton Town". BBC Sport. 13 August 2019. Cyrchwyd 13 August 2019.
  9. "Huddersfield 1-1 Swansea". BBC. 26 November 2019. Cyrchwyd 9 December 2019.
  10. Ben Cabango a'r profiad 'swreal' o ymarfer â Bale a sêr Cymru , BBC Cymru Fyw, 2 Medi 2020.
  11. Cynghrair y Cenhedloedd: Y Ffindir 0-1 Cymru , BBC Cymru Fyw, 3 Medi 2020. Cyrchwyd ar 4 Medi 2020.

Dolenni allanol golygu