Ben Kingsley

actor a aned yn 1943

Actor Seisnig ydy Sir Ben Kingsley, CBE (ganed Krishna Pandit Bhanji; 31 Rhagfyr 1943). Yn ystod ei yrfa sydd wedi ymestyn dros deugain mlynedd, mae ef wedi ennill Oscar, Grammy, BAFTA, dau Golden Globe a Gwobr Urdd yr Actorion Sgrin. Mae ef fwyaf adnabyddus am chwarae'r brif ran fel Mohandas Gandhi yn y ffilm Gandhi ym 1982, pan enillodd Wobr yr Academi am yr Actor Gorau. Chwaraeodd rannau hefyd yn y ffilmiau Schindler's List (1993), Sexy Beast (2000), Lucky Number Slevin (2006), Shutter Island (2010), Prince of Persia: The Sands of Time (2010), Hugo (2011), a Iron Man 3 (2013). Yn 2013 derbyniodd wobr 'Albert R. Broccoli am Gyfraniad Fyd-eang i Adloniant Ffilm' yn BAFTA Los Angeles.

Ben Kingsley
GanwydKrishna Pandit Bhanji Edit this on Wikidata
31 Rhagfyr 1943 Edit this on Wikidata
Snainton Edit this on Wikidata
Dinasyddiaethy Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
Alma mater
  • Ysgol Ramadeg Manceinion
  • Prifysgol Salford
  • Pendleton College Edit this on Wikidata
Galwedigaethactor ffilm, actor, actor cymeriad, actor llwyfan, actor teledu Edit this on Wikidata
Arddullcomedi Shakespearaidd Edit this on Wikidata
PriodDaniela Lavender, Angela Morant, Alison Sutcliffe Edit this on Wikidata
PlantFerdinand Kingsley Edit this on Wikidata
Gwobr/auGwobr yr Academi am Actor Gorau, Gwobr BAFTA am Actor Gorau mewn Prif Rhan, Gwobr BAFTA am y Newydd-ddyfodiad Mwyaf Addawol i brif Actorion Ffilm, Gwobr y Cylch Beirniaid Ffilm i'r Actor Gorau, Gwobr y 'New York Film Critics' am yr Actor Gorau, Gwobr Bwrdd Cenedlaethol Adolygiadau Ffilm am yr Actor Gorau, Golden Globe Award for New Star of the Year – Actor, Gwobr Cymdeithas Beirniaid Ffilm Los Angeles ar gyfer yr Actor Gorau, Gwobr Golden Globe am Actora Gorau - Drama Ffilm Nodwedd, Gwobr BIFA am Berfformiau Gorau gan Actor Mewn Ffilm Brydeinig Annibynnol, Broadcast Film Critics Association Award for Best Supporting Actor, Gwobr Urdd Actorion Sgrin i Actor Gwrywaidd mewn Cyfres Bitw neu Ffilm Deledu, Marchog Faglor, Gwobr Grammy am yr Albwm Llafar Gorau, Padma Shri yn y celfyddydau, CBE, Gwobr Ffilm Ewropeaidd am Actor Gorau, seren ar Rodfa Enwogion Hollywood Edit this on Wikidata
llofnod

Derbyniodd Kingsley Cadlywydd Urdd yr Ymerodraeth Brydeinig (CBE) yn 2000, ac fe'i wnaed yn Farchog Gwyryf gan y Frenhines Elizabeth II yn 2002.[1] Yn 2010, cafodd Kingsley seren ar Lwybr Enwogion Hollywood.[2]

Cyfeiriadau golygu

  1. "Sir Ben: Knighthood beats Oscar". BBC News. Adalwyd ar 3 Mawrth 2013
  2. "Sir Ben Kingsley gets star on Hollywood Walk of Fame" BBC News. 28 Mai 2010. Adalwyd ar 12 Rhagfyr 2014