Benita Asas Manterola

Ffeminist o Wlad y Basg oedd Benita Asas Manterola (4 Mawrth 1873 - 21 Ebrill 1968) sy'n cael ei hystyried yn nodigedig am ei gwaith fel addysgwraig, swffragét ac ymgyrchydd dros fynnu'r bleidlais i ferched.

Benita Asas Manterola
Ganwyd4 Mawrth 1873 Edit this on Wikidata
Donostia Edit this on Wikidata
Bu farw21 Ebrill 1968 Edit this on Wikidata
Bilbo Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Sbaen Sbaen
Alma mater
  • Prifysgol Valladolid Edit this on Wikidata
Galwedigaethaddysgwr, golygydd, newyddiadurwr, ymgyrchydd dros bleidlais i ferched Edit this on Wikidata
Cyflogwr
  • El pensamiento femenino Edit this on Wikidata
Arddulltextbook Edit this on Wikidata
Mudiadffeministiaeth Edit this on Wikidata

Fe'i ganed yn Donostia, Gwlad y Basg a bu farw yn Bilbo.

Hyfforddodd fel athrawes cyn symud i Madrid, Sbaen, lle gweithiai yn y system ysgolion cyhoeddus. Ynghyd â Pilar Fernández Selfa, sefydlodd Asas y cyfnodolyn deufisol El Pensamiento Femenino, a gyhoeddwyd rhwng 1913 a 1917. Hi oedd llywydd yr Asociación Nacional de Mujeres Españolas (ANME) o 1924 i 1932.[1] Gan ddechrau yn 1925, bu'n cyfarwyddo papur newydd misol ANME, sef Mundo Feminino.[2][3][4][5][6][7]

Yn 1929, cynrychiolodd ANME yng nghynhadledd ryngwladol Cynghrair y Merched dros Heddwch a Rhyddid. Roedd Asas hefyd yn un o sefydlwyr y Lyceum Club Femenino Español, Madrid, gyda Maria de Maeztu Whitney.[8]

Yn 2017, cafodd stryd yn ninas Bilbo ei hailenwi ar ei hôl, i gydnabod cyfraniad Asas i amddiffyn hawliau menywod.

Aelodaeth golygu

Bu'n aelod o Gymdeithas Genedlaethol Menywod Sbaen am rai blynyddoedd. [9]

Anrhydeddau golygu


Cyfeiriadau golygu

  1. Tavera García, Susanna. "Benita Asas Manterola". Real Academia de la Historia. Cyrchwyd 16 Mawrth 2019.
  2. Cyffredinol: https://www.wechanged.ugent.be/wechanged-database/.
  3. Rhyw: https://www.wechanged.ugent.be/wechanged-database/.
  4. Dyddiad geni: "Benita Asas Manterola". Cyrchwyd 9 Hydref 2017.
  5. Dyddiad marw: "Benita Asas Manterola". Cyrchwyd 9 Hydref 2017.
  6. Tolliver, Joyce (1998). Cigar smoke and violet water: gendered discourse in the stories of Emilia Pardo Bazán. Bucknell University Press. t. 63. ISBN 0838753752.
  7. José Villa, Maria. "Benita Asas Manterola". Bilbaopedia. University of the Basque Country. Cyrchwyd 16 Mawrth 2019.
  8. Estornes Zubizarreta, Idoia. "Asas Manterola, Benita". Auñamendi Eusko Entziklopedia (yn Sbaeneg). Fondo Bernardo Estornés Lasa. Cyrchwyd 16 Mawrth 2019.
  9. Galwedigaeth: https://www.wechanged.ugent.be/wechanged-database/.