Gwneuthurwr printiau o Ffrainc oedd Bernard Baron (1696 - 24 Ionawr 1762), a dreuliodd lawer o'i oes yn Lloegr.[1]

Bernard Baron
Ganwyd1696 Edit this on Wikidata
Paris Edit this on Wikidata
Bu farw24 Ionawr 1762 Edit this on Wikidata
Llundain Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Ffrainc Ffrainc
Galwedigaethgwneuthurwr printiau Edit this on Wikidata

Cefndir golygu

Ganwyd Baron ym Mharis, yn blentyn i Laurent Baron, ysgythrwr a Françoise (née Aveline) ei wraig. Dysgodd ei grefft gan ei lystad Nicolas-Henri Tardieu.

Gyrfa golygu

Ym 1712 symudodd i Lundain ar wahoddiad Claude Dubosc, er mwyn ei gynorthwyo ar ei ysgythriadau o furlun Laguerre yn Marlborough House. Roedd yn un o'r ysgythrwyr Ffrengig a gynhyrchodd set o blatiau ar ôl paentiadau Thornhill yng nghromen Eglwys Gadeiriol Sant Paul, ac ym 1720 cynorthwyodd Dubosc a Nicolas Dorigny gyda'u hysgythriadau wedi seilio ar gartwnau Raphael. Ym 1724 ysgythrodd Baron wyth plât o Fywyd Achilles wedi seilio ar waith Rubens.

Ym 1729, dychwelodd i Baris dros dro lle ysgythrodd bedwar plât ar gyfer y Recueil Jullienne, crynodeb o 271 o ysgythriadau o baentiadau ac addurniadau Watteau a gomisiynwyd gan y gwneuthurwr tecstilau, ysgythrwr a chasglwr celf Jean de Jullienne, a gyhoeddwyd yn y pen draw ym 1735. Mae rhai haneswyr celf wedi awgrymu bod llun gan Watteau o ysgythrwr wrth ei waith, yng nghasgliad yr Amgueddfa Brydeinig, yn bortread o Baron. Hefyd ysgythrodd blât ar ôl Titian ar gyfer y Recueil Crozat, casgliad o brintiau o baentiadau Eidalaidd mewn casgliadau Ffrengig a gyhoeddwyd ym 1742.

Ym 1735 roedd Baron yn un o grŵp o artistiaid blaenllaw yn Llundain a ddangoswyd ym mhaentiad Gawen Hamilton A Conversation of Virtuosis Roedd yn un o bedwar ysgythrwr Ffrengig a gyflogwyd gan William Hogarth i gynhyrchu platiau ar gyfer ei gyfres Marriage à la mode. Ysgythrodd hefyd bortreadau gan Hogarth ac Allan Ramsay, a gweithiau gan Holbein, Rubens, Van Dyck, a Teniers.

Rhoddodd dystiolaeth i bwyllgor Tŷ'r Cyffredin a arweiniodd at y Ddeddf Hawlfraint Ysgythrwyr.

Mae yna enghreifftiau o waith Bernard Baron yng nghasgliadau portreadau Llyfrgell Genedlaethol Cymru a'r Oriel Bortreadau Genedlaethol yn Llundain.[2]

Teulu golygu

Tua 1722 priododd Grace Lafosse, gwniadyddes gynau, bu iddynt fab.[3]

Marwolaeth golygu

Bu farw yn ei gartref yn Panton Square, Llundain yn 66 mlwydd oed.

Gweithiau golygu

Ei waithiau mwyaf nodedig yw:

Portreadau golygu

  • King Charles I on Horseback, with the Duke d'Epernon, ar ôl Van Dyck.
  • Charles I and Queen, with their two Sons, ar ôl Van Dyck.
  • The Nassau Family, o lun yng nghasgliad Iarll Cowper, gan Van Dyck.
  • The Pembroke Family, o lun yn Wilton House, gan Van Dyck.
  • Henry VIII granting the Charter to the Barber-Surgeons' Company, ar ôl Holbein.
  • Robert, Earl of Carnarvon, ac Anna Sophia, Countess of Carnavon, y ddau ar ôl Van Dyck.
  • George, Prince of Wales, on Horseback, ar ôl Joseph Antony Adolph.
  • Cornells van Tromp, Vice-Admiral of Holland, ar ôl John Vanderbank.
  • Dr. Mead, ar ôl Allan Ramsay.
  • The Lord Chancellor Hardwick, ar ôl Allan Ramsay.
  • The Lord Chief Justice Reve, ar ôl J. Amiconi.
  • The Cornaro Family, ar ôl Titian, o lun yng nghasgliad Dug Northumberland.
  • Benjamin Hoadly, Bishop of Winchester, ar ôl Hogarth.

Ar ôl paentiadau eraill golygu

  • Naw plât o The Life of Achilles, gyda'r teitlau; ar ôl Rubens.
  • Belisarius, yn cael eu galw'n anghywir ar ôl Van Dyck.
  • Charles I escaping from Hampton Court, ar ôl J. d' Angelis.
  • Jupiter and Antiope, ar ôl Titian, gyfer Casgliad Crozat.
  • Pan and Syrinx, ar ôl Nicolas Bertin.
  • The Card-players a The Temptation of St. Anthony ar ôl David Teniers yr ieuaf
  • The Italian Comedians, The Companion, The Two Cousins, Soldiers plundering a Village a The Peasants revenged, ar ôl Watteau.
  • St. Cecilia, ar ôl Carlo Dolci.
  • Moses exposed on the Nile, ar ôl Eustache Le Sueur.
  • Dau blat ar ôl Hogarth Marriage-à-la-mode.

Oriel golygu

Dyma ddetholiad o weithiau gan Bernard Baron:

Cyfeiriadau golygu

 
Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i:
  1. Oxford Dictionary of National Biography - Bernard Baron
  2. Yr Oriel Bortreadau Genedlaethol - Bernard Baron
  3. "Collections Online | British Museum - Bernard Baron". www.britishmuseum.org. Cyrchwyd 2020-10-18.