Betsan Llwyd

actores a aned yn 1959

Actores a chyfarwyddwraig o Gymraes yw Betsan Llwyd (ganwyd Medi 1959).[1]

Betsan Llwyd
GanwydMedi 1959 Edit this on Wikidata
Penffordd-Las Edit this on Wikidata
Man preswylYr Wyddgrug Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethactor, cyfarwyddwr artistig Edit this on Wikidata
Adnabyddus amPen Talar, Pobol y Cwm Edit this on Wikidata

Bywgraffiad golygu

Ganed Betsan ym Mhenffordd-las ym Mhowys a'i magwyd yn Yr Wyddgrug, Sir Y Fflint.[2]

Gyrfa golygu

Yn 2012 cafodd ei phenodi yn Gyfarwyddwr Artistig Theatr Bara Caws. Mae'n un o gyfarwyddwyr Theatr Pena.

Fe enillodd wobrau Actores Orau gan BAFTA Cymru yn 1995 a 2001.[3]

Cafodd lwyddiant gyda Theatr Genedlaethol Cymru yn perfformio yn Ty Bernarda Alba a Y Pair a gyda Theatr Clwyd, Yr Wyddgrug yn Salt, Root and Roe, Gas Light a Pygmalion

Ar deledu, mae hi wedi chwarae rhannau yn Talcen Caled, Sombreros, Pen Talar ac mae wedi ymddangos ar Pobol y Cwm.[3]

Cyfeiriadau golygu

  1. "Betsan Llwyd - Arts Council of Wales". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2015-04-24. Cyrchwyd 2015-12-30.
  2. Betsan Llwyd yn cyfarwyddo, Cylchgrawn BBC; Adalwyd 2015-12-30
  3. 3.0 3.1 Betsan Llwyd awards[dolen marw]


   Eginyn erthygl sydd uchod am actor o Gymraes neu o Gymro. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.