Betws Newydd

pentref yn Sir Fynwy

Pentref bychan yng nghymuned Llan-arth, Sir Fynwy, Cymru, yw Betws Newydd[1] (Saesneg: Bettws Newydd).[2] Fe'i lleolir yng ngogledd y sir, tua 3½ milltir (5.6 km) i'r gogledd o Frynbuga, fymryn i'r de o Gleidda, ger Rhaglan.

Betws Newydd
Mathpentrefan Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirLlan-arth Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau51.7499°N 2.927°W Edit this on Wikidata
Cod OSSO361061 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AC/auPeter Fox (Ceidwadwyr)
AS/auDavid Davies (Ceidwadwr)
Map
Am enghreifftiau eraill o enwau lleol sy'n cynnwys y gair Betws, gweler Betws (gwahaniaethu).

Mae'n un o sawl pentref yng Nghymru sy'n cynnwys y gair betws yn ei enw. Yn achos Betws Newydd, mae'r gair yn cyfeirio at gapel bychan ar gyfer gweddîo (betws) a sefydlwyd yno yn yr Oesoedd Canol. Mae'r eglwys bresennol yn dyddio o'r 15g yn bennaf ac yn adeilad cofrestredig Graddfa I.

Mae'r Betws yn rhan o blwyf eglwysig Llan-arth Fawr.

Eglwys Sant Aeddan, Betws Newydd

Cyfeiriadau golygu

  1. "Rhestr o Enwau Lleoedd Safonol Cymru". Llywodraeth Cymru. 13 Hydref 2021.
  2. British Place Names; adalwyd 8 Rhagfyr 2021
  Eginyn erthygl sydd uchod am Sir Fynwy. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato