Bhubaneswar

dinas yn India

Prifddinas talaith Odisha yn India a'i dinas fwyaf yw Bhubaneswar neu Bhubaneshwar. Fe'i lleolir yn nwyrain India ar wastadiroedd arfordirol dwyrain Odisha i'r de-orllewin o Afon Mahanadi. Poblogaeth: 647,302 (2001).

Bhubaneswar
Teml Lingaraj, Bhubaneswar
Mathdinas, dinas fawr Edit this on Wikidata
Enwyd ar ôly Ddaear Edit this on Wikidata
Bhubaneshwar.ogg, LL-Q9610 (ben)-Titodutta-ভুবনেশ্বর.wav Edit this on Wikidata
Poblogaeth837,737 Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 1948 Edit this on Wikidata
Cylchfa amserUTC+05:30 Edit this on Wikidata
Gefeilldref/iCupertino, Bloemfontein Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirKhordha district Edit this on Wikidata
GwladBaner India India
Arwynebedd1,035 km² Edit this on Wikidata
Uwch y môr45 metr Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau20.2644°N 85.8281°E Edit this on Wikidata
Cod post751001 Edit this on Wikidata
Map
Statws treftadaethTentative World Heritage Site Edit this on Wikidata
Manylion

Yn gyn brifddinas teyrnas Kalinga, mae gan y ddinas hanes hir fel un o ganolfan crefyddol a diwylliannol pwysicaf Hindŵaeth ac heddiw mae'n ganolfan economaidd ranbarthol hefyd. Yng nghwrs ei hanes, mae Bhubaneswar wedi cael ei adnabod wrth sawl enw, e.e. Toshali, Kalinga Nagari, Nagar Kalinga, Ekamra Kanan, Ekamra Khetra a Mandira Malinya Nagari. Cynlluniwyd y ddinas fodern gan y pensaer Almaenig Otto Königsberger yn 1946. Daeth yn brifddinas talaith Orissa (Odisha ers 2011) yn 1948, blwyddyn ar ôl i India ennill ei hannibyniaeth oddi ar Brydain. Cyn hynny, Cuttack a fu'n brifddinas Orissa hyd 1947. Gelwir Bhubaneswar a Cuttack "dinasoedd gefaill" Odisha.

Ceir nifer fawr o demlau Hindwaidd yn Bhubaneswar ac felly fe'i gelwir weithiau yn 'Ddinas Temlau' India. Mae rhai o'r temlau hyn yn hynafol ac yn cynrychioli'r cyfan o bensaernïaeth Kalinga. Y pwysicaf o'r rhain yw Teml Lingaraj, sy'n dyddio o'r 10g ac a gysegrir i Shiva. Mae temlau mawr eraill yn cynnyws temlau Lakshmanesvara, Parasuramesvara, Svarnajalesvra, Muktesvara, Rajarani, Vaital, Brhamesvara, Meghesvara, Vaskaresvara, Ananta Vasudeva, Sari, Kapilesvara, Markandesvara, Yamesvara, Chitrakarini a Sisiresvara.

Gwasanaethir y ddinas gan Faes Awyr Biju Patnaik gyda ffleits dyddiol i Delhi Newydd, Mumbai, Kolkata (Calcutta), Hyderabad, Chennai a Bangalore. Mae'n ganolfan rheilffordd fawr hefyd gyda gorsaf ar Reilffordd Arfordir Dwyrain India.

Dolenni allanol golygu

  Eginyn erthygl sydd uchod am India. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.