Billy Meredith

pêl-droediwr

Cyn bêl-droediwr o Gymro oedd William Henry "Billy" Meredith (30 Gorffennaf 1874 – 19 Ebrill 1958). Roedd yn cael ei ystyried yn un o sêr cyntaf y gamp oherwydd ei berfformiadau i Manchester City a Manchester United[2] a chafodd 48 cap dros Gymru rhwng 1895 a 1920. Meredith yw'r chwaraewr hynaf i ennill cap dros Gymru - pan gamodd i'r maes yn erbyn Lloegr ym 1920 yn 45 mlwydd a 229 diwrnod oed.[3][4]

Billy Meredith
Ganwyd30 Gorffennaf 1874 Edit this on Wikidata
Y Waun Edit this on Wikidata
Bu farw19 Ebrill 1958, 17 Ebrill 1958 Edit this on Wikidata
Manceinion Edit this on Wikidata
Man preswylY Waun Edit this on Wikidata
Dinasyddiaethy Deyrnas Unedig, Teyrnas Unedig Prydain Fawr ac Iwerddon Edit this on Wikidata
Galwedigaethpêl-droediwr Edit this on Wikidata
Taldra175 centimetr Edit this on Wikidata
Gwobr/auNational Football Museum Hall of Fame Edit this on Wikidata
Chwaraeon
Tîm/auManchester United F.C., Northwich Victoria F.C., Manchester City F.C., Chirk AAA F.C., Port Vale F.C., Manchester City F.C., Tîm pêl-droed cenedlaethol Cymru Edit this on Wikidata
Saflehanerwr asgell Edit this on Wikidata
Gwlad chwaraeonCymru Edit this on Wikidata
Billy Meredith
Gyrfa Ieuenctid
Black Park
Gyrfa Lawn*
BlwyddynTîmYmdd(Gôl)
1890–1892Y Waun
1892–1894Northwich Victoria11(5)
1894–1906Manchester City339(129)
1906–1921Manchester United303(35)
1921–1924Manchester City28(0)
Cyfanswm681(169)
Tîm Cenedlaethol
1895–1920Cymru48(11[1])
* Cyfrifir yn unig: ymddangosiadau i Glybiau fel oedolyn a goliau domestg a sgoriwyd..
† Ymddangosiadau (Goliau).

Chwaraeodd Meredith ran allweddol wrth sefydlu Undeb y Chwaraewyr (Saesneg: Players' Union), rhagflaenydd Cymdeithas y Pêl-droedwyr Proffesiynol (Saesneg: Professional Footballers' Association (PFA)) ym 1907.[5]

Roedd ei frawd hŷn, Sam, hefyd yn bêl-droediwr proffesiynol - gyda Stoke City a Chymru.[6]

Bywyd cynnar golygu

Ganed Meredith yn y Waun ym 1874, yr ieuengaf o 10 o blant. Dilynodd ei dad i bwll glo Parc Du pan oedd yn 12 mlwydd oed er mwyn cael gwaith fel gyrrwr merlod.[7]

Gyrfa clwb golygu

C.P.D. AAA Y Waun golygu

Chwaraeodd i dimau ieuenctid Y Waun cyn gwneud ei ymddangosiad cyntaf i'r tîm cyntaf ym 1890. Llwyddodd i ennill Cwpan Cymru gyda'r Waun ym 1894.[8]

Northwich Victoria golygu

Yn ogystal â chwarae i'r Waun, arwyddodd Meredith gytundeb lled-broffesiynol gyda Northwich Victoria yn yr Ail Adran. Er ennill y tair gêm chwaraeodd Meredith i'r tîm, cafwyd tymor siomedig ym 1893-94 a disgynnodd Victoria o'r Gynghrair.[9][10]

Wrexham golygu

Chwareuodd Meredith dros Wrexham hefyd in 1894.[11]

Manchester City golygu

Roedd perfformiadau Meredith dros Northwich yn ddigon i ddenu sylw sawl clwb yn y Gynghrair Bêl-droed ac arwyddodd i Manchester City fel chwaraewr amatur gan weithio yn y pwll glo a theithio yn ôl ac ymlaen i Fanceinion ar gyfer gemau. Gwnaeth ei ymddangosiad cyntaf ym mis Tachwedd 1894 pan gollwyd 5-4 yn erbyn Newcastle United a sgoriodd ddwy gôl yn y gêm ddarbi cyntaf rhwng Manchester City a Newton Heath, a aeth ymlaen i gael eu hadnabod fel Manchester United.[12]

Roedd Meredith yn allweddol i'r tîm a llwyddodd i sicrhau dyrchafiad i'r Adran Gyntaf ym 1899 ac ym 1904 rhwydodd unig gôl y gêm wrth i Manchester City drechu Bolton Wanderers yn rownd derfynol Cwpan FA Lloegr; Meredith, felly, oedd y Cymro cyntaf i godi'r tlws.[13]

Sgoriodd naw gôl mewn 36 gêm yn ystod tymor 1904–05 wrth i Manchester City ddod o fewn dau bwynt i'r pencampwyr, Newcastle United ond daeth y tymor i ben mewn ffordd ddadleuol iawn ar ôl colli eu gêm olaf o'r tymor yn erbyn Aston Villa. Honnodd capten Villa, Alex Leake, fod Meredith wedi ceisio ei lwgrwobrwyo i golli'r gêm. Er gwaethaf pledio'n ddieuog cafodd ei wahardd o bêl-droed am flwyddyn.[14]

Manchester United golygu

 
Meredith yn chwarae i Manchester United

Ym mis Mai 1906, tra'n dal i fod wedi ei wahardd, ymunodd Meredith â Manchester United gan dderbyn £500 o ffi am arwyddo. Ym 1907-08 roedd yn aelod o dîm United enillodd y Bencampwriaeth am y to cyntaf yn eu hanes[15] a hefyd ennill Tarian Elusennol FA Lloegr (Saesneg: FA Charity Shield) yn 1908 - y flwyddyn gyntaf iddi gael ei chynnal - wrth drechu Queens Park Rangers 4-0 yn Stamford Bridge.

Cipiodd Manchester United y Gwpan unwaith eto ym 1908-09 wrth drechu Bristol City[16] ac roedd yn alweddol i'r tîm enillodd y Bencampwriaeth am yr ail dro yn hanes y clwb ym 1910-11[15] ond erbyn 1912-13 roedd ei berthynas gyda'r clwb yn dechrau gwegian wrth i'r rheolwr newydd, John Bentley, ddewis chwaraewyr ifanc yn lle Meredith.[17]

Yn ystod y Rhyfel Mawr chwaraeodd Meredith fel chwaraewr gwadd i Port Vale yn erbyn Manchester United[18]. Ar 7 Mai 1921, yn 46 mlwydd, 281 diwrnod oed, daeth y chwaraewr hynaf erioed i chwarae dros Manchester United mewn gêm gynghrair yn erbyn Derby County.[19]

Dychwelyd i Manchester City golygu

Ym 1921 dychwelodd i Manchester City gan chwarae 25 o gemau yn ystod tymor 1921-22 ond prin iawn oedd ei gyfleon wedi hynny. Chwaraeodd ei gêm olaf i Manchester City yn rownd derfynol Cwpan FA Lloegr ym 1923-24 yn erbyn Newcastle United. Yn 49 mlwydd a 245 diwrnod oed, daeth y chwaraewr hynaf erioed i gynrychioli Manchester City.[17]

Gyrfa ryngwladol golygu

Casglodd Meredith y cyntaf o'i 48 dros Gymru mewn gêm gyfartal 2-2 yn erbyn Iwerddon ar 16 Mawrth 1895.[20][21]. Chwaraeodd ym mhob un o gemau Cymru yn ystod Pencampwriaeth y Pedair Gwlad 1906-07, y tro cyntaf erioed i Gymru ennill y Bencampwriaeth gan sgorio yn y fuddugoliaeth 3-2 dros Iwerddon[22] ac arwain y tîm yn y fuddugoliaeth 1-0 dros Yr Alban a'r gêm gyfartal 1-1 yn erbyn Lloegr.[20]

Roedd hefyd yn gapten ar Gymru pan gipiwyd Bencampwriaeth y Pedair Gwlad am yr ail dro erioed ym 1919-20, cystadleuaeth welodd Cymru'n trechu Lloegr am yr eildro yn unig yn hanes y gamp.[20] Y gêm yn erbyn Lloegr oedd ei gap olaf ac yn 45 mlwydd a 229 diwrnod oed, mae'n parhau i fod y chwaraewr hynaf erioed i ennill cap dros Gymru.

Marwolaeth golygu

Bu farw Meredith yn Withington, Manceinion ym mis Ebrill 1958 yn 83 mlwydd oed. Treuliodd flynyddoedd mewn bedd heb unrhyw garreg ond daeth y PFA, Cymdeithas Bêl-droed Cymru, Manchester City a Manchester United at ei gilydd i osod carreg ar ei fedd yn 2013.[23]. Mae Meredith wedi ei anrhydeddu fel aelod o Oriel Anfarwolion Manchester City[24] ac yn Oriel Anfarwolion Pêl-droed Lloegr.[25]

Cyfeiriadau golygu

  1. Alpuin, Luis Fernando Passo, "Wales – Record International Players", RSSSF, http://www.rsssf.com/miscellaneous/wal-recintlp.html
  2. "Legends: Billy Meredith Player Profile", Stretford-end.com, http://www.stretford-end.com/united-articles/billy-meredith-legend.html
  3. "England 1-2 Wales". Unknown parameter |published= ignored (help)
  4. "Records". Welsh Football Online. Unknown parameter |published= ignored (help)
  5. "Billy Meredith: football superstar". Phil Carradice. Unknown parameter |published= ignored (help)
  6. Gareth M. Davies ac Ian Garland (1991). Who's Who of Welsh International Soccer Players. t. 137. ISBN 1-872424-11-2.
  7. Gareth M. Davies ac Ian Garland (1991). Who's Who of Welsh International Soccer Players. t. 138. ISBN 1-872424-11-2.
  8. Gwefan welshsoccerarchive
  9. 'The Manchester City Story' gan Andrew Ward;cyhoeddwyr:Breedon;isbn=0-907969-05-4
  10. Gwefan www.statto.com
  11. Gwefan CPD AAA Y Waun
  12. Ian Penney (1995). The Maine Road Encyclopaedia. ISBN 1-85158-710-1. Unknown parameter |published= ignored (help)
  13. "Y Bywgraffiadur Cymreig: Meredith, William". LlGC. Unknown parameter |published= ignored (help)
  14. "Billy Meredith". manutd.com.
  15. 15.0 15.1 "Golden years: The tale of Manchester United's 20 titles". Unknown parameter |published= ignored (help)
  16. "The 1909 Final. Manchester United vs. Bristol City". 1909replayed.org. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2013-04-26. Cyrchwyd 2016-03-23.
  17. 17.0 17.1 John Harding (1998). Football Wizard: The Billy Meredith Story. ISBN 1-86105-137-9. Unknown parameter |published= ignored (help)
  18. Jeff Kent (1996). Port Vale Personalities. Witan Books. ISBN 0-9529152-0-0.
  19. Andy Mitten (2007). The Man Utd Miscellany. Vision Sports Publishing. t. 29. ISBN 978-1-905326-27-3.
  20. 20.0 20.1 20.2 Jack Rollin (1988). Rothman's Book of Football Records. ISBN 0 7472 1954 0. Unknown parameter |published= ignored (help)
  21. "Chapter Five – Chirk's Billy Meredith", copi archif, chirkaaafc.com, http://www.chirkaaafc.com/chapter5.html, adalwyd 2016-03-23
  22. "Ireland 2-3 Wales". Welsh Football Data Archive. Unknown parameter |published= ignored (help)
  23. "Welsh footy star Billy Meredith is the inspiration for new Man Utd V-shaped kit". WalesOnline. Unknown parameter |published= ignored (help)
  24. "Winifred weeps as dad joins legends". Manchester Evening News. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2012-11-12. Cyrchwyd 2016-03-23.
  25. "Football Hall of Fame – Billy Meredith". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2008-05-20. Cyrchwyd 2016-03-23. Unknown parameter |published= ignored (help)