Biwmares (etholaeth seneddol)

etholaeth seneddol

Roedd Biwmares yn etholaeth seneddol i Dŷ'r Cyffredin yn Senedd y Deyrnas Unedig o 1541 hyd at 1885. Rhwng 1541 a 1553 Niwbwrch oedd bwrdeistref Seneddol Môn.[1].

Biwmares
Etholaeth Bwrdeistref
Creu: 1542
Diddymwyd: 1885
Math: Tŷ'r Cyffredin
Aelodau:Un

Dim ond y 24 prif fwrdeisiwr o dref Biwmares oedd a hawl i bleidleisio hyd 1832. O dan Ddeddf diwygio’r Senedd 1832 cynyddodd nifer y pleidleiswyr i 218 gan gynnwys etholwyr o Amlwch, Caergybi a Llangefni. Diddymwyd yr etholaeth ym 1885 gan ei uno a gweddill Sir Fôn gan dorri nifer cynrychiolwyr yr ynys i un.

Cynrychiolwyr Niwbwrch yn San Steffan golygu

  • 1541 Richard ap Rhydderch, o Fyfyrion
  • 1545 Owain ap Huw
  • 1547 John ap Robert Lloid

Cynrychiolwyr Biwmares yn San Steffan yn y 16eg ganrif golygu

  • 1553 (Mawrth) Maurice Griffith
  • 1553 (Medi) Rowland Bulkeley
  • 1554 (Tachwedd) William Bulkeley
  • 1555 Hugh Goodman
  • 1558–1567 William Price
  • 1571 William Bulkeley
  • 1572 Rowland Kenrick
  • 1584–1593 Thomas Bulkeley
  • 1597–1598 William Jones

Cynrychiolwyr Biwmares yn San Steffan yn y 17eg ganrif golygu

  • 1601 William Maurice
  • 1604 William Jones
  • 1614 William Jones
  • 1621-1622 Sampson Eure
  • 1624 Charles Jones
  • 1625 Charles Jones
  • 1626 Charles Jones
  • 1628 Charles Jones
  • 1629–1639 Dim senedd
  • 1640 (Ebrill) Charles Jones
  • 1640 (Tachwedd) John Griffith Brenhinwr
  • 1642 Bu farw John Griffith a bu'r sedd yn wag hyd 1646
  • 1646 William Jones
  • 1648 Diarddelwyd Jones a bu’r sedd yn wag hyd 1659
  • 1659 (Ionawr) Griffith Bodwrda
  • 1659 (Mai) Ni fu cynrychiolydd seneddol i Fiwmares
  • 1660 Griffith Bodwrda
  • 1661 (Ebrill) Heneage Finch
  • 1661 (Gorffennaf) John Robinson
  • 1679 (Chwefror) Richard Bulkeley
  • 1679 (Awst) Yr Anrh. Henry Bulkeley Tori
  • 1689 William Williams
  • 1690 Thomas Bulkeley
  • 1695 Syr William Williams
  • 1698 Owen Hughes

Cynrychiolwyr Biwmares yn San Steffan yn y 18fed ganrif golygu

  • 1701 (Ionawr) Coningsby Williams
  • 1701 (Rhagfyr) Robert Bulkeley
  • 1703 Coningsby Williams
  • 1705 Yr Anrh. Henry Bertie
  • 1727 Watkin Williams-Wynn (Etholwyd Wynn yn yr un etholiad fel AS Sir Ddinbych gan ddewis cynrychioli'r sedd honno yn hytrach nag un Biwmares)
  • 1730 Yr Is Iarll Bulkeley
  • 1753 John Owen
  • 1754 Richard Thelwall Price
  • 1768 Syr Hugh Williams
  • 1780 Syr George Warren
  • 1784 Yr Anrh. Hugh Fortescue
  • 1785 Syr Hugh Williams
  • 1794 Syr Watkin Williams-Wynn, 5ed Barwnig
  • 1796 Thomas Wynn, Barwn 1af Niwbwrch

Cynrychiolwyr Biwmares yn San Steffan yn y 19eg ganrif golygu

Etholiadau golygu

Dim ond dau etholiad cystadleuol a gynhaliwyd yn yr etholaeth trwy ei holl hanes sef ym 1868 a 1874 ac yn y ddau bu aelodau o'r Blaid Ryddfrydol yn ymladd yn erbyn ei gilydd.

Etholiad Cyffredinol 1868: Biwmares

Nifer yr etholwyr 1,944

Plaid Ymgeisydd Pleidleisiau % ±%
Rhyddfrydol William Owen Stanley 941 59.1
Rhyddfrydol Morgan Lloyd 650 40.9
Mwyafrif 281
Y nifer a bleidleisiodd
Rhyddfrydol yn cadw Gogwydd
Etholiad Cyffredinol 1874: Biwmares

Nifer yr etholwyr 1,944

Plaid Ymgeisydd Pleidleisiau % ±%
Rhyddfrydol Morgan Lloyd 947 61.3
Ceidwadwyr T L Hampton-Lewis 344 22.3
Rhyddfrydol Syr Edmund Hope-Verney 255 16.4
Mwyafrif 603
Y nifer a bleidleisiodd
Rhyddfrydol yn cadw Gogwydd

Gweler hefyd golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. W R Williams The parliamentary history of the principality of Wales, from the earliest times to the present day, 1541-1895. Fersiwn arlein:[1]