Blönduós

Tref, Bwrdeisdref, Gwlad yr Iâ

Mae Blönduós neu Blönduósbær yn dref a bwrdeisdref yng ngogledd Gwlad yr Iâ. Gorwedda yn Rhanbarth y Gogledd Orllewin, Norðurland vestra. Ystyr y gair 'Blönduós' yw aber yr afon Blanda - yn Islandeg ystyr ós yw 'aber' a blanda, yw 'cymysgedd'. Mae'n un o drefi twristiaeth prysuraf Gwlad yr Iâ. Ei phoblogaeth yw 865 ac mae ei thiriogaeth yn 182 km sgwâr.

Blönduós
Mathdinas, former municipality of Iceland Edit this on Wikidata
Poblogaeth939 Edit this on Wikidata
Cylchfa amserUTC±00:00 Edit this on Wikidata
Gefeilldref/i
Horsens, Moss, Nokia, Bwrdeistref Karlstad Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirNorðurland vestra Edit this on Wikidata
GwladBaner Gwlad yr Iâ Gwlad yr Iâ
Arwynebedd183 km² Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau65.67°N 20.3°W Edit this on Wikidata
Cod post540 Edit this on Wikidata
IS-BLO Edit this on Wikidata
Map
Lleoliad Blonduosbaer
Tai yn Blönduós

Fel sawl tref a phentref ar yr ynys, ni ddatblygodd Blönduós yn bentref nes yn hwyr yn y 19g. Mae yna rai hen dai yn y pentref ond ceir clwster o dai o ddechrau'r 20g ar ochr ddeheuol yr afon.[1] Does gan Blönduós ddim harbwr dda a phrif rôl yr annedd yw fel canolfan llaeth i'r ffermydd lleol.

Lleoliad golygu

 
Blonduos, 2007

Lleolir Blönduós ar Ffordd Rhif 1, neu'r Hringvegur y gylchffordd sy'n teithio o amgylch Gwlad yr Iâ. Sair y dref ar aber yr afon rhewlifol, Blanda. Enwir y pentref ar ôl yr afon, (Blöndu yw'r 'oblique case' o Blandais). Ar y bryn uwchben y dref saif eglwys sydd â phensaerniaeth drawiadol sydd fod i adlewyrchu crater llosgfynydd.

Mae gan Blönduós hinsawdd 'tundra'.

Hanes golygu

 
Blönduós

Ffurfiwyd y lle presennol yn ei rhan orllewinol ar dir y ffermydd Hjaltabakka a Hnjúka, yn ei dwyreiniol ar fferm Ennis.

1875 a 1876, cafodd y dref yr hawl swyddogol fel dref fasnachol a phorthladd. Tyfodd yr anheddiad i ddechrau o gwmpas tŷ masnachu Thomas J. Thomsen, o Bergen yn Norwy a'i deulu, ond cafodd ei losgi i lawr ym 1914.

Arweiniodd gwelliant sylweddol yn y cysylltiadau allanol â Blönduós drwy adeiladu pont dur dros y Blanda ym 1897, a ddisodlwyd yn 1963 gan y bont concrid ]press stressed' gyntaf.

Ym 1976, codwyd cofeb er cof am y masnachwr.[2]

Hyd 1914, roedd y dref yn rhan o gymuned wledig Torfalækjarhreppur ac yna daeth yn gymuned wledig ar wahân (Isl Blönduóshreppur). 1988 Derbyniodd Blönduós y statws "kaupstaður", hynny yw, bwrdeisdref annibynnol (isl. Blönduoskaupstaður). Ym mis Mehefin 2002, unodd y gymuned wledig Engihlíðarhreppur â Blönduós.[2]

Poblogaeth golygu

Fel sy'n gyffredin ar draw Gwlad yr Iâ (heblaw am y de orllewin o gwmpas y brifddinas, Reykjavík gostwng yw hanes poblogaeth Blönduós yn gostwng (1997 i 2006: -14.5%), er y bu cynnydd bychan iawn iawn yn 2007.

Dyddiad Poblogaeth
1 Rhagfyr 1997: 1.043
1 Rhag. 2003: 958
1 Rhag. 2004: 917
1 Rhag. 2005: 903
1 Rhag. 2006: 892
1 Rhag. 2007: 895

Gefailldrefi golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. ""Hit Iceland information page about Iceland"". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2017-09-24. Cyrchwyd 2018-04-18.
  2. 2.0 2.1 T. Einarsson, H. Magnússon (Hrsg.): Íslandshandbókin. Náttúra, saga og sérkenni. Teil 1. Örn og Örlygur, Reykjavík 1989, S. 344.

Dolenni allanol golygu