Black Swan (ffilm)

Ffilm Americanaidd o 2010 yn serennu Natalie Portman, Vincent Cassel, a Mila Kunis ydy Black Swan. Cyfarwyddwyd y ffilm gan Darren Aronofsky. Disgrifir y ffilm fel ffilm gyffro seicolegol neu ffilm arswyd seicolegol. Mae'r plot yn ymwneud â chynhyrchiad o "Swan Lake" gan gwmni ballet uchelael Dinas Efrog Newydd. Golyga'r cynhyrchiad fod yn rhaid i un dawnswraig ballet chwarae rhan yr Alarch Wen ddiniwed a'r Alarch Ddu nwydus. Mae un dawsnwraig, Nina (Portman) yn gwbl addas ar gyfer yr Alarch Wen, tra bod gan Lily (Kunis) bersonoliaeth sy'n gweddu i'r Alarch Ddu. Pan fo'r ddwy ohonynt yn cystadlu am y rhannau, darganfydda Nina ochr mwy tywyll i'w chymeriad.

Black Swan

Poster y Ffilm
Cyfarwyddwr Darren Aronofsky
Cynhyrchydd Scott Franklin
Mike Medavoy
Arnold Messer
Brian Oliver
Ysgrifennwr Andres Heinz (stori)
Addaswr Mark Heyman
Andres Heinz
John McLaughlin
Serennu Natalie Portman
Vincent Cassel
Mila Kunis
Cerddoriaeth Clint Mansell
Sinematograffeg Matthew Libatique
Golygydd Andrew Weisblum
Dylunio
Dosbarthydd Fox Searchlight Pictures
Dyddiad rhyddhau 3 Rhagfyr 2010
Amser rhedeg 108 munud
Gwlad Yr Unol Daleithiau
Iaith Saesneg
Cyllideb $13 miliwn
Refeniw gros $$75,218,000
Eginyn erthygl sydd uchod am ffilm arswyd. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.