Blanche Milborne

gofalwraig magwraeth Elisabeth I, Edward VI a'r Frenhines Mari

Roedd Blanche Milborne, arglwyddes Herbert o Troy yn Feistres-Arglwyddes â fagodd Elisabeth I, brenhines Lloegr, Edward VI, brenin Lloegr a hefyd Mari I, brenhines Lloegr. Bu'n briod ddwywaith, ac yn weddw ddwywaith; yn gyntaf i James Whitney ac yna i Syr William Herbert o Troy Parva, mab anghyfreithlon i William Herbert, Iarll 1af Penfro (1423–1469) ac un o'i feistresi. Roedd ganddi bump o blant a gwyddom iddi farw Blanche Milborne c. 1557 cyn esgyniad y frenhines Elizabeth I o Loegr i'r orsedd.[1][2][3]

Blanche Milborne
Ganwyd15 g Edit this on Wikidata
Bu farwc. 1557 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Lloegr Lloegr
Baner Cymru Cymru
Galwedigaethgweithiwr y llys, mamaeth Edit this on Wikidata
SwyddArglwyddes y Stafell Wely Edit this on Wikidata
TadSimon Milborne Edit this on Wikidata
MamJane Baskerville Edit this on Wikidata
PriodWilliam Herbert, James Whitney Edit this on Wikidata
PlantAnne Whitney, Robert Whitney, James Whitney, Watkin Whitney, Robert Whitney, Elizabeth Whitney, Charles Herbert, Thomas Herbert, Charles ap Gwilym Herbert, Jane ferch William Herbert, Thomas Herbert Edit this on Wikidata

Magwraeth a theulu golygu

Roedd Blanche Milborne yn un o un-ar-ddeg o gyd-aeresau Simon Milborne a Jane (Baskerville) o Burghill, Swydd Henffordd. Priododd ei chwaer hynaf, Alice â Henry Myles a hwy oedd rhieni Blanche Parry. Roedd gan y teulu gysylltiadau uchelwrol iawn; priododd William Herbert, Iarll 1af Penfro (1423–1469) ag Ann Devereux, nith mam Simon Milborne, sef Elizabeth Devereux. Cysylltwyd Blanche hefyd â'r Frenhines Catherine Parr gan rannu'r un hynafiad, sef Agnes Crophull, a'r ddwy felly yn ail gefndryd.

Y briodas gyntaf golygu

Priododd Blanche Milborne â James Whitney o Whitney a Pen-cwm; ei gwaddol oedd maenor Icomb yn Swydd Gaerloyw a oedd yn eiddo i'w thad ac a etifeddwyd gan eu mab hynaf, Robert. Bu farw James Whitney ar 30 Gorffennaf 1500, gan adael Blanche gyda Robert yn dair ar ddeg oed, a James, Watkin ac Elizabeth a oedd yn iau. Priododd merch Elizabeth, Ann Morgan o Arkstone, Swydd Henffordd, â Henry Carey, (yr Arglwydd Hunsdon yn ddiweddarach) trwy drwydded ar 21 Mai 1545, a mab Mary Boleyn.

Yr ail briodas golygu

Rhwng Gorffennaf 1500 ac Awst 1502 ailbriododd Blanche, gan ddod yn ail wraig Syr William Herbert o Troy Parva, mab anghyfreithlon i Syr William Herbert, Iarll 1af Penfro ac un o'i feistresi, Frond verch Hoesgyn. Aelwyd Gymreig ydoedd a siaradai'r teulu Cymraeg a Saesneg. Dywed Lewys Morgannwg iddi hi a’i gŵr groesawu’r Brenin Harri VII, ei Ieirll ac o bosibl ei Frenhines i Troy House, Mitchel Troy ger Trefynwy yn Awst 1502.

Roedd gan Blanche a Syr William ddau fab Charles a Thomas, y ddau ohonynt yn farchogion ac a fu'n ddiweddarach yn siryfion Sir Fynwy. Roedd gan Syr William fab anghyfreithlon hefyd, Richard. Priododd Thomas ag Anne Lucy o Charlecote.

Marw golygu

Bu farw Blanche Milborne yn ddynes anrhydeddus, yn ôl pob tebyg ym 1557 ac yn sicr cyn esgyniad y frenhines Elizabeth yn Nhachwedd 1558. Mae'n bosib iddi gael ei chladdu (fel y bwriadai ei hail ŵr) mewn beddrod yn eglwys y plwyf, Trefynwy, ond mae'r feddrod honno bellach ar goll; byddai'r feddrod wedi ei haddurno gan y tri delw o: Blanche Milborne, Syr William a'i wraig gyntaf.

Mae ei marwnad angladdol, a gyfansoddwyd gan y bardd Lewys Morgannwg, yn cynnwys y llinellau:<ref>'Marwnad yr Arglwyddes Blanche' gan Lewys Morgannwg, Llansteffan MS 164, 118, yn LlGC, A. Cynfael Lake, gol. 'Gwaith Lewys Morgannwg' cyfr 1, Aberystwyth 2005./ref>

Arglwyddes breninesau,
Gofrner oedd ban oedd yn iau.
Hi a wyddiad yn weddus
Wybodau iarllesau'r llys,
Gorcheidwad cyn ymadaw
Tŷ Harri Wyth a'i blant draw.
I Edwart Frenin ydoedd,
Uwch ei faeth, goruchaf oedd,
Waetio yr oedd at ei Ras,
Gywirddoeth wraig o urddas.
Arglwyddys plas a gladden',
Troe, a'i llew lletyai'r ieirll hen.
Bu i frenin, bu fawr unwaith,
Roeso, a'i ieirll, Harri Saith.
Gweddu y bu tra fu fyw
Hon sydd frenhines heddiw.

Cyfeiriadau golygu

  1. Rhyw: Darryl Roger Lundy (yn en), The Peerage, Wikidata Q21401824, http://thepeerage.com/
  2. Tad: Darryl Roger Lundy (yn en), The Peerage, Wikidata Q21401824, http://thepeerage.com/
  3. Mam: Darryl Roger Lundy (yn en), The Peerage, Wikidata Q21401824, http://thepeerage.com/