Bloomsbury

ardal Llundain

Ardal faestrefol ym Mwrdeistref Llundain Camden, Llundain Fwyaf, Lloegr, ydy Bloomsbury.[1] Saif yn West End Llundain rhwng Euston Road a Holborn. I'r gogledd mae Regent's Park a St Pancras; i'r dwyrain mae Clerkenwell; i'r de mae Covent Garden; ac i'r gorllewin mae Fitzrovia.

Bloomsbury
Mathardal o Lundain Edit this on Wikidata
Ardal weinyddolBwrdeistref Llundain Camden
Daearyddiaeth
SirLlundain Fwyaf
(Sir seremonïol)
GwladBaner Lloegr Lloegr
Yn ffinio gydaTref Somers Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau51.5201°N 0.1288°W Edit this on Wikidata
Cod OSTQ299818 Edit this on Wikidata
Map

Datblygwyd i fod yn ardal breswyl ffasiynol gan y Teulu Russell yn yr 17eg a'r 18g. Mae'n enwog am ei sgwariau megis Russell Square a Tavistock Square, am ei chysylltiadau llenyddol (e.e. trwy y Bloomsbury Group, yn cynnwys Virginia Woolf, John Maynard Keynes, E. M. Forster a Lytton Strachey) ac am ei nifer fawr o sefydliadau fel Yr Amgueddfa Brydeinig, Royal Academy of Dramatic Art (RADA) a'r British Medical Association ynghyd â nifer o sefydliadau academaidd a meddygol eraill.

Tavistock Square

Cyfeiriadau golygu

  1. British Place Names; adalwyd 3 Mai 2019
  Eginyn erthygl sydd uchod am Lundain. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.