Drama trasiedi gan y dramodydd Sbaeneg Federico García Lorca yw Bodas de sangre ("Priodas Waed"). Ysgrifennwyd ym 1932 a pherfformwyd yn 1933. Ffurfir 'triawd y werin' efo'i ddramâu eraill Yerma a La casa de Bernarda Alba ond nid oedd La Casa de Bernarda Alba yn ffurfio rhan o'i gynllun gwreiddiol.[2]

Bodas de sangre
Enghraifft o'r canlynolgwaith llenyddol Edit this on Wikidata
AwdurFederico García Lorca Edit this on Wikidata
GwladSbaen Edit this on Wikidata
IaithSbaeneg Edit this on Wikidata
CymeriadauBridegroom's Mother, Bridegroom, Bride, Death, Moon, Maid, Bride's Father, Leonardo's Wife, Leonardo's Mother-in-law, Woodcutter I, Woodcutter II, Woodcutter III, Young Man I, Young Man II, Girl I, Girl II, Girl III, Neighbour, Little Girl, Leonardo Edit this on Wikidata
Prif bwncNijar Crime Edit this on Wikidata
Dyddiad y perff. 1af8 Mawrth 1933 Edit this on Wikidata[1]
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Braslun golygu

Dim ond enwau fel mab, mam a priodferch sydd gan y cymeriadau. Agorir gyda'r mab a'r fam yn siarad. Mae gelyniaeth rhwng eu teulu a'r teulu Felix. Etyb y fam yn ffyrnig wrth weld cyllell yn ei law a chawn stori lladd ei frawd ac ei dad gan y Felixiaid.

Mae cymdoges yn datgelu bod darpar-wraig y mab yn gyn-gariad i Leonardo Felix, Mae'r fam yn penderfynu ymweld â'r briodferch. Mewn tŷ pellenig mae Leonardo, sy'n briod erbyn hyn ac yn dad i fab newydd, yn dychwelyd. Mae'r fam-yng-nghyfraith a gwraig Leonardo yn canu lwli trist i'r baban. Priodas anhapus sy gan Leonardo a phan ddaw merch fach i'r tŷ i adrodd hanes briodi ei gyn-gariad mae'n stormio o'r tŷ.

Mae'r fam yn cwrdd â theulu ei darpar-ferch-yng-nghyfraith ac er yn ddrwgdybus yn gadael yn hapus. Ond mae'r forwyn yn dod at y briodasferch i ddweud bod Leonardo wedi bod yn loitran o gwmpas y tŷ yn ddiweddar. Mae Leonardo yn dod y noson honno ac maen nhw'n cyffesu eu cariad at eu gilydd.

Wedi'r briodas mae parti mawr yn y tŷ a'r briodferch yn gadael i orwedd wedi'r diwrnod prysur. Ond ddaw yn amlwg bod hi wedi gadael â Leonardo. Mae'r mab a'r gwesteion i gyd yn mynd ar eu hôl nhw yn benderfynol o ladd Leonardo.

Wrth guddio yn y goedwig mae gwrach (neu gardotwraig) a'r lleuad yn ymddangos yn ysu am waed ffres. Goleuo'r pâr ifanc ac mae'r gŵr a Leonardo yn lladd ei gilydd.

Yn y pentref wedyn mae'r gwragedd yn ymgynnull ac yn sylwi wrth i'r brioferch cyrraedd yn ôl bod y priodfab a Leonardo wedi marw. Aneglur yw ffawd y weddw/priodferch wedyn; ai cael ei lladd neu ai byw yn hir fel gweddw llawn gofid.

Cymeriadau golygu

  • La Madre - y fam
  • La Novia - y briodferch
  • La Suegra - mam-yng-nghyfraith Leonardo
  • La Mujer De Leonardo - gwriag Leonardo
  • La Criada - morwyn
  • La Vecina - cymdoges
  • Muchachas - merched
  • Leonardo
  • El Novio - y priodfab
  • El Padre De La Novia - tad y briodferch
  • La Luna - Y lleuad
  • La Muerte (como mendiga) - Angau (fel wrach neu gardotwraig)
  • Leñadores - Torrwyr-coed
  • Mozos - bechgyn

Symboliaeth golygu

Mae'r lleuad yn gymeriad cas, yn ysu am waed poeth rhag oerni'r nos. Defnyddir lliwiau a blodau fel symbolau gwyryfdod a diniweidrwydd. Ail-adroddir geiriau fel plata (arian), ramas (canghennau), paloma (colomen), ac yn aml iawn symbol y ceffyl a'i wynt yn ei ddwrn, Crynhoir y symboliaeth i gyd mewn lwli trist a genir i fab Leonardo mewn adlais o'r hyn sydd i ddod.

Themâu golygu

Gwell i farw wrth geisio cariad na byw mewn anobaith ac yn gaeth i hualau'r gymdeithas. Felly marwolaeth a chariad, cydymffurfiaeth, chwant a rhyddid yr unigolyn yw ei themâu. A'r penderfyniad byrbwyll i ddianc - a symboleiddir gan y ceffyl, a'r tynged anochel sy'n deillio o dorri rheolau'r gymdeithas.

Addasiadau golygu

Addasiad Sbaeneg ym 1938, gyda Margarita Xirgu fel seren.

I'r Gymraeg:

Opera:

Ffilm:

Llyfryddiaeth golygu

  • Christopher Maurer, "Introduction", yn Federico García Lorca: Three Plays, cyf. Michael Dewell a Carmen Zapata (Llundain: Penguin, 1992)

Cyfeiriadau golygu

  1. http://hemerotecadigital.bne.es/issue.vm?id=0001115392&page=2. dyddiad cyhoeddi: 9 Mawrth 1933. tudalen: 2.
  2. Maurer (1992, ix).

Dolenni allanol golygu