Roedd Boeotia, (Groeg: Βοιωτία), hefyd Beotia, neu Bœotia yn diriogaeth yng Ngroeg yr Henfyd ac yn awr yn enw Nomos (sir) yn yr un ardal.

Boeotia
Mathnomau Groeg, regional unit of Greece Edit this on Wikidata
PrifddinasLivadeia Edit this on Wikidata
Poblogaeth130,768, 109,293, 115,774 Edit this on Wikidata
Cylchfa amserUTC+2, UTC+03:00 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirCentral Greece Region Edit this on Wikidata
GwladGwlad Groeg Edit this on Wikidata
Arwynebedd2,952 km² Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau38.44°N 22.88°E, 38.4°N 23.1°E Edit this on Wikidata
Cod post32x xx 190 12 Edit this on Wikidata
GR-03 Edit this on Wikidata
Map
Nomos Boeotia yng ngwlad Groeg heddiw

Mae Boeotia i'r gogledd o ran ddwyreiniol Gwlff Corinth. Yn y de mae'n ffinio ar Attica a Megaris, yn y gogledd ar Locris Opuntiaidd a Chulfor Euripus, ac yn y gorllewin ar Phocis. Ynghanol Boeotia mae Llyn Copais.

Ceir llawer o sôn am Boeotia ym mytholeg Roeg. Yn y cyfnod hanesyddol roedd nifer o ddinasoedd pwysig yma, yn enwedig Thebai, y ddinas mwyaf pwerus yng Ngroeg am gyfnod. Dywedid mai Graia (Γραία) oedd y ddinas hynaf yng Ngroeg. Dinasoedd eraill yma oedd Orchomenus, Plataea, a Thespiae.

Pobl enwog o Boeotia golygu

  Eginyn erthygl sydd uchod am Wlad Groeg. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato