Tuedd o fewn cymdogaethau trefol yw boneddigeiddio lle mae prisiau tai yn codi fel ag i ddadleoli teuluoedd dosbarth gweithiol neu deuluoedd incwm-isel a busnesau bychain.[1] Mae'n bwnc llosg o fewn cynllunio trefol.[2]

Boneddigeiddio
Mathproses Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Boneddigeiddio symbolaidd yn Prenzlauer Berg, Berlin.

Mae boneddigeiddio'n digwydd pan fo pobl ddosbarth canol yn symud i mewn i ardal a fu gynt yn gymharol dlawd gan newid ei chymeriad. Mae'n daten boeth ym maes cynllunio trefol gan fod y newid a welir yn un sydyn ac anaturiol, ac mae datrus y broblem yn sialens i nifer o gymdogaethau canol dinas mewn gwledydd datblygedig.[3] Y duedd sy'n groes i foneddigeiddio yw tlodi cefn gwlad (neu drefol).[4]

Cyfeiriadau golygu

  1. cymraeg.llyw.cymru;[dolen marw] adalwyd Ebrill 2016.
  2. Chris Hamnett, "The blind men and the elephant: the explanation of gentrification", Transactions of the Institute of British Geographers 16 (1991):173–189
  3. Lees, Loretta, Tom Slater, a Elvin K. Wyly, Gentrification (Efrog Newydd, 2008)
  4. wordfromg.blogspot.com; adalwyd Ebrill 2016