Dinas yn nhalaith ffederal Nordrhein-Westfalen yn yr Almaen yw Bonn. Saif tua 20 km i'r de o ddinas Cwlen, ar lan afon Rhein. O 1949 hyd 1990, roedd Bonn yn brfddinas Gorllewin yr Almaen, yna o 1990 hyd 1999 yn ganolfan llywodraeth yr Almaen unedig, hyd nes i'r brifddinas gael ei symud i Berlin.

Bonn
Mathdinas fawr, prif ganolfan ranbarthol, tref goleg, Bundesstadt, urban district of North Rhine-Westphalia, bwrdeistref trefol yr Almaen Edit this on Wikidata
Poblogaeth336,465 Edit this on Wikidata
Pennaeth llywodraethKatja Dörner Edit this on Wikidata
Cylchfa amserUTC+01:00, UTC+2 Edit this on Wikidata
Gefeilldref/i
Rhydychen, La Paz, Opole, Tel Aviv, Potsdam, Bukhara, Aveiro, Yogyakarta, Minsk, Belffast, Cape Coast, Budafok, Ramallah, Chengdu Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Rhan o'r canlynolArdal Fetropolitan Rhine-Ruhr, Nordrhein-Westfalen Edit this on Wikidata
SirArdal Llywodraethol Cwlen Edit this on Wikidata
GwladBaner Yr Almaen Yr Almaen
Arwynebedd141.06 km² Edit this on Wikidata
Uwch y môr60 ±1 metr Edit this on Wikidata
GerllawAfon Rhein, Melbbach Edit this on Wikidata
Yn ffinio gydaArdal Rhein-Sieg, Ahrweiler, Alfter Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau50.7339°N 7.0997°E Edit this on Wikidata
Cod post53111–53229 Edit this on Wikidata
Pennaeth y LlywodraethKatja Dörner Edit this on Wikidata
Map
Bonn ac afon Rhein

Sefydlwyd y ddinas yn y cyfnod Rhufeinig. Tua 11 CC, roedd uned o'r fyddin Rufeinig a gwersyll ar y safle, a chyn hynny roedd aelodau o lwyth yr Ubii wedi eu sefydlu yma gan y fyddin. Efallai fod yr enw Lladin Bonna yn dod o enw'r llwyth arall yn yr ardal, yr ,Eburones. Yn ddiweddarach, datblygodd sefydliad milwrol mawr o'r enw Castra Bonnensis. Hon yw'r gaer Rufeinig fwyaf o'i math y gwyddir amdani.

Wedi'r Ail Ryfel Byd, pan rannwyd yr Almaen, dewiswyd Bonn yn brifddinas Gorllewin yr Almaen gan Konrad Adenauer, oedd yn frodor o'r ardal.

Mae Bonn hefyd yn nodedig fel man geni'r cyfansoddwr Ludwig van Beethoven; gellir gweld y tŷ lle ganed ef yn y Bonngasse.