Bordon

tref yn Hampshire

Tref a phlwyf sifil yn Hampshire, De-ddwyrain Lloegr, ydy Bordon.[1] Fe'i lleolir ym mhlwyf sifil Whitehill yn ardal an-fetropolitan Dwyrain Hampshire. Saif yn Fforest Brenhinol Woolmer gynt.

Bordon
Mathtref Edit this on Wikidata
Ardal weinyddolHampshire
Daearyddiaeth
SirHampshire
(Sir seremonïol)
GwladBaner Lloegr Lloegr
Cyfesurynnau51.1124°N 0.8643°W Edit this on Wikidata
Cod OSSU796354 Edit this on Wikidata
Cod postGU35 Edit this on Wikidata
Map

Yng Nghyfrifiad 2011 roedd gan ardal adeiledig Bordon boblogaeth o 16,035.[2]

Rhwng 1903 a 2015 lleolwyd gwersyll byddin yn y dref. Yn 2009, fe'i dynodwyd gan Lywodraeth y DU yn un o bedair eco-dref newydd. Ar ôl ymadawiad y byddin ym mis Rhagfyr 2015 am ganolfan newydd yn Lyneham, Wiltshire rhyddhawyd dros 100 hectar, a roddodd gyfle i drawsnewid y dref o dref garsiwn i leoliad modern ecogyfeillgar erbyn 2036.

Cyfeiriadau golygu

  1. British Place Names; adalwyd 16 Mehefin 2020
  2. City Population; adalwyd 16 Mehefin 2020

Dolenni allanol golygu



  Eginyn erthygl sydd uchod am Hampshire. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.