Arwr traddodiadol a gysylltir â'r Hen Ogledd oedd Brân Galed. Ystyr yr ansoddair caled yma yw "crintachlyd, cybyddus". Daeth yn enwog yn chwedloniaeth y Cymry fel perchennog corn yfed arbennig a oedd yn un o Dri Thlws ar Ddeg Ynys Prydain.

Brân Galed
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru

Gan fod Brân yn enw eithaf cyffredin ymhlith enwau arwyr cynnar y Brythoniaid a'r Cymry mae'n anodd gwybod pa arwr neu frenin hanesyddol allai fod yn sail i'r cymeriad, ond un posiblrwydd yw Brân Hen fab Dyfnwal Moelmud (crybwyllir y Brân hwnnw gan Sieffre o Fynwy yn ei Historia Regum Britanniae, ond fel arall mae'n anhysbys). Yn ôl Sieffre daeth yn frenin Rhufain. Ei fab oedd Cynan ap Brân, yn ôl rhai ffynonellau.

Cyfeirir at Gorn Brân Galed yn y rhestr o drysorau enwog a adnabyddir fel Tri Thlws ar Ddeg Ynys Prydain:

Korn Bran Galed o'r Gogledd: y ddiod a ddymunid i bod ynddo a gaid ynddo.[1]

Math o lestr frwythlondeb yw'r gorn, sy'n gallu diwallu syched pawb. Cyfeiria Guto'r Glyn (ganol y 15g) ato mewn un o'i gerddi:

Brân Galed brin y gelwynt
Bonedd Gwŷr y Gogledd gynt;
Taliesin, ddewin ddiwael,
A'i troes yn well no'r Tri Hael.[2]

Ymddengys o'r cyfeiriad uchod ac eraill tebyg fod Taliesin (fel cymeriad chwedlonol) yn cymryd lle Myrddin mewn chwedl sydd wedi goroesi am y dewin hwnnw yn troi'r brenin crintachlyd yn "well na'r Tri Hael" (Nudd, Mordaf a Rhydderch oedd y Tri Hael hynny, fu'n enwog am eu haelioni diarhebol).

Ceir cyfeiriadau yn chwedlau gwerin Iwerddon at gorn tarw hud a lledrith a roddai gyflenwad diwall o fwyd a diod i bawb a'i feddai.

Cyfeiriadau golygu

  1. Trioedd Ynys Prydein: The Triads of the Island of Britain, gol. Rachel Bromwich (Caerdydd, 1961; argraffiad newydd 1991), Atodiad III
  2. Trioedd Ynys Prydein, gol. Bromwich, t. 318.