Aelod uchaf mamolion deudroed yw braich, wedi'i lleoli rhwng yr ysgwydd a'r llaw. Mae'r gair Cymraeg braich yn gytras â bregh, brygh yn y Gernyweg a brec'h yn y Llydaweg ac mae'r tri gair hyn yn tarddu o'r gair Lladin bracchium.[1] Fe'i cofnodir yn Gymraeg mor bell yn ôl â 1200: '..hyd nes y cyrhaeddodd at hyd braich...'.

Braich
Enghraifft o'r canlynolisraniad organeb, dosbarth o endidau anatomegol Edit this on Wikidata
Mathisran o'r corff cardinal, endid anatomegol arbennig Edit this on Wikidata
Rhan obraich Edit this on Wikidata
Cysylltir gydaYsgwydd, Llaw Edit this on Wikidata
Yn cynnwyselin, rhan ucha'r fraich Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Bôn braich.

Anatomi golygu

 
Sgetsis yn dyddio nôl i 1510 gan yr arlunydd a'r dyfeisydd Leonardo da Vinci.

Mae'r fraich yn cynnwys 30 asgwrn, cymalau, cyhyrau a gwythiennau gwaed. Mae'r rhan fwyaf o'r cyhyrau'n cael eu defnyddio'n ddyddiol i wneud tasgau dyddiol, arferol.

Yr esgyrn golygu

 
Yr esgyrn yn y fraich.

Yn bôn y fraich ceir asgwrn a elwir yn hwmerws. Mae'n cyfarfod y balfais ychydig yn uwch na chymal yr ysgwydd a chyda'r wlna a'r radiws yn y cymal penelin.

Mae'r hwmerws yn asgwrn cryf iawn a gall godi, ar gyfartaledd, 300 pwys.

Gweler hefyd golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. Henry Lewis, Yr Elfen Ladin yn yr iaith Gymraeg (Gwasg Prifysgol Cymru, 1943), penodau 4, 80.
  Eginyn erthygl sydd uchod am anatomeg. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.
Chwiliwch am braich
yn Wiciadur.