Braich-y-Dinas oedd un o'r bryngaerau gorau o'i math yng ngwledydd Prydain nes iddi gael ei dinistrio'n llwyr gan waith chwarel lleol ar ddechrau'r 20g. Safai tua 1,500 troedfedd i fyny ar ben y Penmaen-mawr, mynydd gwenithfaen a leolir rhwng trefi Penmaenmawr a Llanfairfechan ar lan Bae Conwy, gogledd Cymru. Erbyn hyn mae'r gaer wedi diflannu ac mae'r mynydd ei hun yn 500 troedfedd is nag y bu. Yn ffodus gwnaed arolwg o'r safle a'i chloddio'n rhannol yn 1909: yr adroddiad a gyhoeddwyd yn 1912-15 yw ein prif ffynhonnell am y fryngaer heddiw. Lleoliad cyfeiriad grid SH701753.

Braich-y-Dinas
Mathbryngaer sy'n rhannol ddilyn tirffurf y graig Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirConwy
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau53.2587°N 3.9488°W Edit this on Wikidata
Cod OSSH70107530 Edit this on Wikidata
Map
Hen engrafiad o Fraich-y-Dinas ar gopa'r Penmaen-mawr (tua 1880)

Enw golygu

Mae'r fryngaer hon yn un o sawl caer yng Nghymru a elwir yn 'ddinas', e.e. Dinas Emrys, Dinas Dinorwig; hen ystyr y gair hwnnw yw "caer" ac mae'n enw gwrywaidd mewn enwau lleoedd (ond yn enw benywaidd heddiw).

Disgrifiad golygu

Codwyd y gaer rywbryd yn Oes yr Haearn. Roedd y gaer yn nhiriogaeth llwyth yr Ordovices, a cheir tystiolaeth sy'n awgrymu iddi gael ei defnyddio trwy gydol cyfnod y Rhufeiniaid yng Nghymru.

Amddiffynid Braich-y-Dinas gan gyfres o dri mur trwchus (9 troedfedd yn achos y mur allanol), ac eithrio uwchben y llethrau gogleddol oedd yn disgyn yn syth i'r môr. Cafwyd olion tua 90 o gytiau crwn cynhanesyddol y tu mewn i'r muriau. Roedd ffynnon uchel, ger un o'r tair carnedd oedd ar gopa'r mynydd, yn cyflenwi dŵr i'r safle.

Darganfuwyd crochenwaith syml, troellau carreg, pinau gwallt a darnau o ractalau efydd, ynghyd â darnau o addurnwaith amrywiol ac offer haearn ar y safle.

Mae'r ardal o rosdir eang rhwng Penmaenmawr a mynydd Tal-y-Fan, i'r de o safle'r fryngaer, yn frith ag olion a henebion cynhanesyddol, gan gynnwys Y Meini Hirion (cylch cerrig Neolithig), bryngaer Dinas a nifer o garneddi. Rhedai hen lwybr cynhanesyddol pwysig o safle Llanfairfechan heddiw i gyfeiriad Conwy heibio i'r fynediad i Fraich-y-Dinas. Byddai'r gaer ei hun yn wylfa ardderchog i gadw golwg ar y llwybr hwnnw a'r llwybr cynhanesyddol arall dros Fwlch-y-Ddeufaen gerllaw (llwybr a ddefnyddwyd gan y Rhufeiniaid ar gyfer eu ffordd o Gaer i Segontiwm.

Ceir disgrifiadau o Fraich-y-Ddinas gan hynafiaethwyr cynnar megis William Camden a Thomas Pennant, ond yn anffodus nid ydynt yn ddigon eglur a manwl i fod o lawer o ddefnydd. Roedd pob un o'r awduron hynny'n synnu at faint y fryngaer. Ceir y disgrifiad cynharaf a mwyaf trawiadol gan Syr John Wynn o Wydir, ond prin y gellir derbyn ei honiad fod y gaer yn ddigon mawr i ddal 20,000 o bobl!

Llyfryddiaeth golygu