Gwirod a wneir o wahanol fathau o ffrwythau, ond yn arbennig grawnwin, yw brandi. Daw'r gair o'r Iseldireg brandewijn. Mae'n cynnwys rhwng 35–60% o alcohol, o ran ei gyfaint, (70–120 'prawf' UDA) a chaiff ei yfed, fel rheol, wedi cinio er mwyn cynorthwyo i dreulio'r bwyd.

Brandi
Enghraifft o'r canlynolGwirod Edit this on Wikidata
Mathwine spirit Edit this on Wikidata
Lliw/iauamber Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Brandi

Fel arfer, yfir brandi ar dymheredd yr ystafell, ond yn aml, fe'i rhoddir mewn gwydr llydan er mwyn i wres y llaw godi ei dymheredd ychydig. I gyflymu'r broses hon, gellir rhoi gwydriad o frandi mewn popty microdon am tua 5 eiliad.

Ceir llawer o wahanol fathau o frandi o rawnwin, wedi eu cynhyrchu mewn nifer o wledydd. Cysylltir y ddiod yn arbennig a Ffrainc, lle mae mathau enwog o frandi yn cynnwys Cognac ac Armanac. Ymhlith y gwledydd eraill sy'n nodedig am gynhyrchu brandi mae Sbaen, yn enwedig ardal Jerez de la Frontera, ac Armenia.[1][2] Cedwir y goreuon am gyfnod hir mewn casgenni prenb, derw, ond defnyddir 'caramel' ar eraill er mwyn tywyllu lliw'r hylif iddo edrych yn hen.

Gellir defnyddio nifer o ffrwythau eraill, ar wahân i rawnwin, i gynhyrchu brandi, er enghraifft Calvados, a wneir yn Normandi o afalau; math arall yw brandi pomace.[1][3] Gelwir y diodydd hyn yn eau de vie (sef y term Ffrangeg am "ddŵr y bywyd").

Cyfeiriadau golygu

  1. 1.0 1.1 Nodyn:Britannica
  2. "Brandy". BBC. Cyrchwyd 22 Gorffennaf 2014.
  3. Kirk-Othmer Food and Feed Technology. John Wiley & Sons. 2007-12-14. t. 151. ISBN 9780470174487.