Brecio atgynhyrchiol

System frecio sydd hefyd yn cynyrchu trydan yw brecio atgynhyrchiol a ddefnyddir mewn Cerbyd trydan heibrid a cherbydau trydan llawn. Drwy'r system hon mae'r egni cinetig (neu symudol) yn cael ei droi'n egni trydanol, yn hytrach na ffrithiant a'i wres gwastraffus sy'n nodweddiadol o gerbyd confensiynol. Mae ambell gar trydan sy'n cynnwys system frecio atgynhyrchiol yn defnyddio'i beiriant tanio mewnol i gynhyrchu trydan er mwyn ail-wefru'r batris neu bweru'r motor, mae eraill fel trenau Underground Llundain yn arbed 20% o egni - sy'n cael ei yrru'n ôl i'r rhwydwaith trydan. Mae hyn yn ddull effeithiol o arbed arian, ac ar gynnydd.

Brecio atgynhyrchiol
Mathbrake Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Mae'r trên S7/8 Stock a geir ar Underground Llundain yn atgynhyrchu 20% o'r egni brecio yn ôl i rwydwaith trydanol y trenau.
Y car cyntaf i dderbyn systen frecio atgynhyrchiol: 'General Motors EV1'

Mae ceir trydan, neu heibrid, yn defnyddio eu motor trydan fel generadur i greu trydan, wrth frecio. Mae hyn yn eitha tebyg i'w dull o greu golau ar feiciau, ble roedd yr olwynion cocos yn trosglwyddo egni cinetig o'r olwyn i fatri'r lamp ac yn ddiweddar mae'r system elfenol hon wedi'i datblygu ymhellach i ailwefru'r batris pan fo'r beic yn brecio.[1]

Y car EV-1 gan General Motors oedd y cerbyd masnachol cyntaf i dderbyn system frecio atgynhyrchiol, a hynny rhwng 1996 a 1999 a chofrestrwyd dwy batent gan Abraham Farag a Loren Majersik.[2][3]

Gweler hefyd golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. "Hydraulic Hybrid Bicycle Research". United States Environmental Protection Agency. Italic or bold markup not allowed in: |publisher= (help)
  2. GM patent 5775467Floating electromagnetic brake system.
  3. GM patent 5603217Compliant master cylinder.