Brfxxccxxmnpcccclllmmnprxvclmnckssqlbb11116

enw personol gwrywaidd

Brfxxccxxmnpcccclllmmnprxvclmnckssqlbb11116 yw'r enw personol a geisiwyd ei roi ar blentyn, gan ei rieni, yn Sweden yn 1996.[1] Fel 'Albin' ([ˈalbɪn]) yr ynganai'r rhieni yr enw.

Hanes yr enw golygu

Roedd y rhieni wedi dewis peidio rhoi enw o gwbl ar eu plentyn mewn protest yn erbyn y gyfraith Swedaidd am enwau personol, a ddaeth i rym yn 1982. Ond, pan gyrhaeddodd y plentyn ei bumed pen-blwydd yn 1996 ac yntau heb enw, penderfynodd llys yn Halmstad, yn ne Sweden, y byddai'n rhaid i'r rhieni dalu dirwy o 5,000 coron Swedaidd (tua 525 Ewro) os na roddent enw ar eu plentyn.[2]

Mewn ymateb i fygythiad y llys, cynigiodd y rhieni yr enw 43 llythyren Brfxxccxxmnpcccclllmmnprxvclmnckssqlbb11116, gan honni fod yr enw hwn yn "ddatblygiad mynegeiol a oedd, yn eu barn hwy, yn greadigaeth artistig"[3] y gellid ei ddehongli yn nhermau pataffisegol. Gwrthododd y llys a gofynnodd iddynt dalu'r ddirwy. Mewn ymateb i hynny, cynigiodd y rhieni'r enw A, unwaith eto, gyda'r ynganiad 'Albin', ond gwrthodwyd hynny hefyd gan y llys.

Cefndir golygu

Yn Sweden, mae'r gyfraith yn gorfodi rhieni i roi'r enw y dymunent roi i'w blentyn o flaen yr awdurodau, yn ffurf Asiantaeth Treth Sweden, er mwyn cael penderfynu os ydyw'r enw yn dderbyniol neu beidio.

Pasiwyd y Ddeddf Enwau Personol yn 1982 gyda'r bwriad o rwystro teuluoedd cyffredin rhag rhoi enwau teuluoedd bonheddig i'w plant. Ni dderbynnir enwau personol a ystyrir gan y llys yn debyg o "beri loes" i'r un sy'n ei ddwyn neu sy'n "anadddas am resymau eraill" fel enwau personol.

Cyfeiriadau golygu

  1. The Top 10 Dumbest Personal Names ever (archif), gwefan 2spare.com.
  2. No laughs for Swedes' name game Archifwyd 2018-10-24 yn y Peiriant Wayback., Reuters, 30.05.1996 (archif).
  3. Saesneg: "expressionistic development that we see as an artistic creation."