Actor a chanwr o Gymro oedd Brian Hibbard (26 Tachwedd 194617 Mehefin 2012). Ef oedd sylfaenydd a phrif leisiwr gwreiddiol The Flying Pickets.[1] Ganwyd Hibbard i deulu dosbarth gweithiol yng Nglynebwy, yn yr hen Sir Fynwy, a cafodd fagwraeth sosialaidd.[2] Fe'i addysgwyd yn Ysgol Ramadeg Glyn Ebwy.

Brian Hibbard
Ganwyd26 Tachwedd 1946 Edit this on Wikidata
Glynebwy Edit this on Wikidata
Bu farw17 Mehefin 2012 Edit this on Wikidata
Caerdydd Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethactor, canwr, actor ffilm, actor teledu Edit this on Wikidata

Gyrfa golygu

Cerddoriaeth golygu

Yn dilyn sawl swydd fel athro, gweithiwr dur, barmon a ysgubwr simneiau, ffurfiodd y Flying Pickets gyda grŵp o actorion eraill oedd wedi bod yn ymarfer canu a cappella tra'n teithio ar fws i'w ymddangosiadau. Perfformiodd ddau gyngerdd yng Nghanolfan Hamdden Glyn Ebwy pan yn teithio gyda'r Flying Pickets, a ffurfiodd linell piced ar Top of the Pops ar anterth streic y glowyr (1984-85).

Actio golygu

Yn dilyn llwyddiant y grŵp yn yr 1980au cynnar, aeth Hibbard ymlaen i ddilyn gyrfa fel actor teledu, gan ymddangos yn Coronation Street fel y mecanic garej Doug Murray, yn Emmerdale fel Bobby-John Downes, ac fel Johnny Mac yn yr opera sebon Cymraeg Pobol y Cwm yn ogystal â'r gyfres ddrama i bobl iau Pam Fi, Duw?. Roedd yn y ffilm Twin Town (1997) fel y cymeriad oedd yn galw'i hun yn "Karaoke King", Dai Rees. Ymddangosodd hefyd yn y gyfres ddrama Making Out; yn y stori Doctor Who Delta and the Bannermen; yn y rhaglen gomedi The Armando Ianucci Shows; ac yn y ffilm Rancid Aluminium. Ymddangosodd Hibbard yn EastEnders rhwng 4 a 8 Gorffennaf 2011 yn chwarae Henry Mason, dyn oedd yn arfer rhedeg cartref plant lle roedd Billy Mitchell a Julie Perkins dan ofal.

Marwolaeth golygu

Yn 2000, canfuwyd fod gan Hibbard gancr y prostad; bu farw o'r afiechyd ar 17 Mehefin 2012.[3][4] Gadawodd ei wraig, Caroline a'i blant: Lilly, Hafwen a Cai.[5]

Gwaith golygu

Ffilmiau golygu

Teledu golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. Tobler, John (1992). NME Rock 'N' Roll Years (arg. 1st). London: Reed International Books Ltd. t. 387. CN 5585.
  2. Spencer Leigh. Brian Hibbard: Singer and actor who formed the Flying Pickets (en) , indepenedent.co.uk, 19 Mehefin 2012. Cyrchwyd ar 31 Awst 2016.
  3. Brian Hibbard dies from prostate cancer
  4. Brian Hibbard obituary in The Guardian
  5. Actor and ex-Flying Pickets singer Brian Hibbard dies , BBC News, 18 Mehefin 2012. Cyrchwyd ar 31 Awst 2016.

Dolenni allanol golygu