Llwyth Celtaidd yng ngogledd Lloegr oedd y Brigantes. Roedd eu tiriogaeth yn ymestyn dros y rhan fwyaf o Ogledd Lloegr a rhan o Ganolbarth Lloegr. Ceir yr enw Brigantium mewn nifer o leoedd ar y cyfandir, er enghraifft y Brigantii yn ardal yr Alpau.

Tiriogaeth y Brigantes ar fap o Gymru a Lloegr.

Ymddengys na fu gwrthdrawiad rhwng y Brigantes a'r Rhufeiniaid yng ngyfonod cynnar y goncwest Rufeinig, ond yn 47, bu raid i lywodraethwr Prydain, Publius Ostorius Scapula, roi'r gorau i'w ymgyrch yn erbyn y Deceangli yng ngogledd-ddwyrain Cymru oherwydd helynt ymysg y Brigantes. Pan orchfygwyd Caradog gan y Rhufeiniaid mewn brwydr yn nhiriogaeth yr Ordoficiaid yn 51, aeth at Cartimandua, brenhines y Brigantes, i geisio nodded. Trosglwyddodd Cartimandua ef yn garcharor i'r Rhufeiniaid.

Yn y cyfnod yma, roedd Cartimandua a'i gŵr Venutius yn ochri gyda'r Rhufeiniaid, ond wedi iddynt ysgaru, trodd Venutius yn erbyn ei wraig a Rhufain. Cafodd Cartimandua gefnogaeth y Rhufeiniaid, ond cymerodd Venutius fantais ar helyntion Blwyddyn y Pedwar Ymerawdwr yn 69 i yrru ei wraig o'r orsedd.

Wedi i Vespasian ddod yn ymerawdwr, daeth Quintus Petillius Cerialis yn llywodraethwr Prydain, a dechreuodd ef ymgyrch yn erbyn y Brigantes. Ymddengys i goncwest lwyr gymeryd blynyddoedd lawer, ond erbyn i Fur Antoninus gael ei godi tua'r flwyddyn 140 roedd tiriogaeth y Brigantiaid yn cael ei rheoli'n llwyr gan y Rhufeiniaid.

Prif dduwies y Brigantiaid oedd Brigantia. Ceir sawl arysgrif ddefodol ar diriogaeth y llwyth sy'n dwyn ei henw, e.e. ar gerflun o gaer Birrens.