Helgi sy'n tarddu o'r Almaen yw'r Brochgi[1] neu'r Dachsund (lluosog: Dachsunds).[1] Weithiau ar lafar yn Ne Cymru fe'i eliwir yn gi llathaid, ond gall yr enw hwn hefyd gyfeirio at y corgi.[2] Mae "Brochgi" yn gyfieithiad llythrennol o'r enw Almaeneg Dachshund: cafodd y brîd hwn ei ddatblygu i hela'r broch yn ei ddaear.[3] Er ei fod yn helgi, mae gan y Brochgi dras o grŵp y daeargwn[3] ac mae'n ymddwyn yn debyg i ddaeargi.[4]

Brochgi
Enghraifft o'r canlynolbrîd o gi Edit this on Wikidata
Mathci Edit this on Wikidata
Gwladyr Almaen Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Brochgi

Ci bywiog yw'r Brochgi sydd yn hir ei gorff gyda brest dwfn, coesau byrion, trwyn pigfan, a chlustiau hirion. Ceir dau faint – safonol a bach – a thri math o gôt – llathraidd, hirwallt, a gwrychog. Gan amlaf mae ganddo flew brown-goch neu felyn a du. Mae ganddo daldra o 18 i 25 cm (7 i 10 modfedd) ac yn pwyso 7 i 14.5 kg (16 i 32 o bwysau); mae'r ffurf fechan yn fyrach ac yn pwyso llai na 5 kg (11 o bwysau).[3]

Cyfeiriadau golygu

  1. 1.0 1.1 Geiriadur yr Academi, [dachshund].
  2.  ci. Geiriadur Prifysgol Cymru. Adalwyd ar 21 Medi 2014.
  3. 3.0 3.1 3.2 (Saesneg) dachshund. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 21 Medi 2014.
  4. (Saesneg) Are dachshunds hounds or terriers?. Canis lupus hominis (3 Gorffennaf 2012). Adalwyd ar 21 Medi 2014.