Brodwaith enwog o'r 11g a luniwyd ar gyfer Eglwys gadeiriol Bayeux, yn Normandi, Ffrainc, i ddathlu buddugoliaeth Dug Gwilym ym Mrwydr Hastings a goresgyniad Lloegr gan y Normaniaid yw Brodwaith Bayeux.

Brodwaith Bayeux
Enghraifft o'r canlynolembroidery Edit this on Wikidata
CrëwrUnknown Edit this on Wikidata
Deunyddlinen, Gwlân Edit this on Wikidata
GwladLloegr, Teyrnas Lloegr Edit this on Wikidata
IaithLladin yr Oesoedd Canol Edit this on Wikidata
Dechrau/Sefydlu1070s Edit this on Wikidata
GenreAnglo-Saxon art, peintio hanesyddol Edit this on Wikidata
LleoliadBayeux Edit this on Wikidata
Perchennoggwladwriaeth Ffrainc Edit this on Wikidata
Prif bwncConcwest Normanaidd Lloegr Edit this on Wikidata
Statws hawlfraintparth cyhoeddus, parth cyhoeddus Edit this on Wikidata[1]
Map
GwladwriaethFfrainc Edit this on Wikidata
RhanbarthBayeux Edit this on Wikidata
Gwefanhttps://www.bayeuxmuseum.com/en/ Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Rhan o Frodwaith Bayeux yn dangos y Dug Gwilym

Mae'r brodwaith, sy'n 69 m (231 troedfedd) o hyd, yn rhoi hanes darluniadol goresgyniad Lloegr gan y Normaniaid gan ddechrau gydag ymweliad Harold II, brenin Lloegr â Normandi a gorffen gyda Brwydr Hastings yn 1066. Mae o werth hanesyddol mawr. Cafodd ei gomisynu gan Odo, Esgob Bayeux, hanner-brawd Dug Gwilym (Gwilym Gwncwerwr). Yn ôl traddodiad, cafodd ei wneud gan Mathilda, gwraig Gwilym, ond credir erbyn hyn iddo gael ei lunio gan grefftwyr Normanaidd yn Lloegr ar ôl y Goresgyniad.

Gellir gweld Brodwaith Bayeux yn amgueddfa Bayeux.

Cyfeiriadau golygu

  Eginyn erthygl sydd uchod am hanes. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.