Brokeback Mountain

ffilm ddrama rhamantus gan Ang Lee a gyhoeddwyd yn 2005

Mae Brokeback Mountain (2005) yn ffilm ramantaidd-ddramatig sy'n darlunio'r berthynas ramantaidd a rhywiol rhwng dau ddyn yng Ngorllewin America rhwng 1963 a 1983.[1]

Brokeback Mountain

Poster y Ffilm
Cyfarwyddwr Ang Lee
Cynhyrchydd Diana Ossana
Larry McMurtry
Scott Ferguson
James Schamus
Ysgrifennwr Annie Proulx
Diana Ossana
Larry McMurtry
Serennu Heath Ledger
Jake Gyllenhaal
Anne Hathaway
Michelle Williams
Randy Quaid
Cerddoriaeth Gustavo Santolalla
Sinematograffeg Rodrigo Prieto
Golygydd Geraldine Peroni
Dylan Tichenor
Dylunio
Cwmni cynhyrchu Focus Features
Paramount Pictures
Good Machine
Universal (DVD)
Dyddiad rhyddhau 16 Rhagfyr 2005
Amser rhedeg 134 munud
Gwlad Unol Daleithiau
Iaith Saesneg

Cyfarwyddwyd y ffilm gan y cyfarwyddwr o Taiwan, Ang Lee, ar sail sgript gan Diana Ossana a Larry McMurtry. Roedd y sgript yn addasiad o stori fer o'r un enw gan Annie Proulx. Mae Heath Ledger, Jake Gyllenhaal, Anne Hathaway a Michelle Williams yn serennu yn y ffilm.

Enillodd Brokeback Mountain y Golden Lion yng Ngŵyl Ffilm Fenis a chafodd ei anrhydeddu â'r gwobrau am Ffilm Orau ac am Gyfarwyddwr Gorau gan BAFTA, Gwobrau'r Golden Globe, Gwobrau'r Critics Choice a'r Gwobrau Independent Spirit ynghyd â nifer o ŵyliau a sefydliadau eraill. Enwebwyd y ffilm am wyth Gwobr yr Academi, gan ennill tri: Cyfarwyddwr Gorau, Addasiad o Sgript Gorau a Sgôr Wreiddiol Orau. Credai nifer mai'r ffilm oedd y ceffyl blaen ar gyfer Gwobr yr Academi am y Ffilm Orau, ond cipiwyd y wobr honno gan y ffilm Crash.[2] Ymysg ffilmiau rhamantaidd, mae Brokeback Mountain yn 10fed yn ôl maint derbyniadau gros mewn swyddfeydd tocynnau.

Cyfeiriadau golygu

  1. Proulx, Annie; McMurtry, Larry; Ossana, Diana (2005, 2006). "Brokeback Mountain: Story to Screenplay". London, New York, Toronto and Sydney: Harper Perennial. ISBN 978-0-00-723430-1
  2. Drudge, Matt (2005). "Hollywood rocked: 'Gay cowboy' movie becomes an Oscar front runner". Drudge Report. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2006-06-14. Cyrchwyd 2012-06-03.
  Eginyn erthygl sydd uchod am ffilm â thema LHDT. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.