Bronfraith

rhywogaeth o adar
Bronfraith
Dosbarthiad gwyddonol
Teyrnas: Animalia
Ffylwm: Chordata
Dosbarth: Aves
Urdd: Passeriformes
Teulu: Turdidae
Genws: Turdus
Rhywogaeth: T. philomelos
Enw deuenwol
Turdus philomelos
Brehm, 1831
Wyau'r fronfraith
Bronfraith y grug, Turdus philomelos

Mae'r fronfraith (hefyd bronfraith y grug, bronfraith fach; Lladin Turdus philomelos) yn aelod o deulu'r Turdidae. Mae'n aderyn cyffredin ac adnabyddus trwy Ewrop heblaw am dde Sbaen a Phortiwgal, yn enwedig gan ei fod yn hoff o erddi.

Nid yw'r fronfraith yn aderyn mudol fel rheol, ond mae adar o'r gogledd yn symud tua'r de yn y gaeaf. Eu prif fwyd yw pryfed, malwod ac aeron. Defnyddir carreg i dorri cregyn y malwod cyn eu bwyta, a gan fod yr aderyn yn aml yn defnyddio'r un garreg bob tro gellir gweld darnau o gregyn ar wasgar o'i chwmpas. Mae'n nythu mewn llwyni fel rheol.

Gellir gwahaniaethu rhwng y Fronfraith a brych y coed sy'n aderyn tebyg iawn trwy fod y Fronfraith llai na brych y coed ac yn fwy brown ar y pen a'r cefn lle mae brych y coed yn fwy llwydfrown. Mae'r gân yn adnabyddus iawn, a gellir ei hadnabod trwy fod yr aderyn yn ail-adrodd pob darn o'r gân nifer o weithiau cyn symud ymlaen i ddarn arall.

Rhai rhywogaethau yn nheulu'r Turdidae golygu

Rhestr Wicidata:

rhywogaeth enw tacson delwedd
Brych Aztec Ridgwayia pinicola
 
Brych Cataponera Cataponera turdoides
 
Brych amrywiol Ixoreus naevius
 
Brych y goedwig Hylocichla mustelina
 
Crec meini Pinarornis plumosus
 
Crec morgrug Finsch Stizorhina finschi
 
Crec morgrug gwinau Stizorhina fraseri
 
Trydarwr bronddu Chlamydochaera jefferyi
 
Diwedd y rhestr a gynhyrchwyd yn otomatig o Wicidata.

Llenyddiaeth golygu

Cymraeg golygu

Honna rhai[1] mai cerdd am frych y coed Turdus viscivorus ac nid y fronfraith Turdus philomelos roedd goddrych cerdd [Dafydd ap Gwilym] am dan y teitl Y Ceiliog Fronfraith:

Plygain y darllain deirllith,
Plu yw ei gasul[2] i'n plith.
Pell y clywir uwch tiroedd
Ei lef o lwyn a'i loyw floedd.
Proffwyd rhiw, praff awdur hoed[3]
Pencerdd gloyw angerdd glyngoed.”

Un peth sydd o blaid ceiliog bronfraith fel goddrych y gerdd ydi’r gair “llwyn”. Mae brych y coed yn canu fel hyn[4] o’r coed uchaf fel arfer. Mae’r hen enw gwerinol S. ‘stormcock’ yn addas iawn I gyfleu hyn.

Dolenni allanol golygu