Bronwen Astor

model (1930-2017)

Model oedd Bronwen Astor, Is-iarlles Astor (née Alun Pugh; 6 Mehefin 193028 Rhagfyr 2017). Bu hefyd yn awen ac yn couturier i Pierre Balmain, a'i disgrifiodd fel un o'r merched prydferthaf iddo erioed gyfarfod.[1]

Bronwen Astor
Ganwyd6 Mehefin 1930 Edit this on Wikidata
Bu farw28 Rhagfyr 2017 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
Galwedigaethmodel Edit this on Wikidata
TadJohn Alun Pugh Edit this on Wikidata
PriodWilliam Astor, 3ydd is-iarll Astor Edit this on Wikidata
PlantJanet Astor, Pauline Marian Astor Edit this on Wikidata
Clawr llyfr: Bronwen Astor: Her Life and Times gan Peter Stanford.

Bywgraffiad golygu

Ganwyd Janet Bronwen Alun Pugh yn Llundain, yn ferch i Syr John Alun Pugh, adnabyddir yn gyffredinol wrth ei henw canol, Bronwen.[2] Addysgwyd yn Ysgol Dr. Williams yn Nolgellau, Gwynedd.[3]

Ar 14 Hydref 1960 priododd â 3ydd Is-iarll Astor, mab Nancy Astor, y ddynes gyntaf i gymryd sedd yn Nhŷ'r Cyffredin. Bronwen oedd ei drydydd gwraig. Wedi tair blynedd o briodas, tröwyd ei bywyd ar ei ben i lawr yn sgil Helynt Profumo, a ddymchwelodd llywodraeth Harold Macmillan. Ym 1966, bu farw ei gŵr yn ifanc, gan ei gadael i ofalu am ddau blentyn dan 5 oed.[1]

Agorodd ei thŷ i'r digartref, ac ym 1983 hyfforddodd fel seicotherapydd.[1] Cyhoeddwyd ei bywgraffiad, Bronwen Astor: Her Life and Times, yn 2000.

Teulu golygu

Gŵr golygu

Plant golygu

Llyfryddiaeth golygu

  • Peter Stanford (1999). Bronwen Astor : Her Life and Times. HarperCollins. ISBN 9780002558396

Dolenni allanol golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. 1.0 1.1 1.2  The Women: Bronwen Astor. Visionary Dialogues with Modern Women.
  2.  Janet Bronwen Alun Pugh. thePeerage.com.
  3.  Addysg ddelfrydol yn straeon Enid Blyton yn bell o’r gwir. Western Mail (1 Rhagfyr 2009).