Lliw yw brown; dyma liw rhisgl coed, lliw gwallt, pridd neu fwd. Mae weithiau'n symbol o dlodi. Lliw cyfansawdd ydyw a gaiff ei wneud drwy uno coch, du a melyn, gan yr argraffydd; gellir defnyddio glas yn lle du.[1][2] Ar sgrin deledu (y model RGB) caiff ei wneud drwy uno coch a gwyrdd.

Brown
Enghraifft o'r canlynollliw, lliw a enwir gan HTML4 Edit this on Wikidata
Mathgoleuni Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Gwahanol fathau o frown.

Mewn sawl ymchwil drwy Ewrop, dyma'r lliw lleiaf poblogaidd.[3]

Hanes golygu

Mae'r gair yn fenthyciad o'r iaith Saesneg. Cyn tua 200 mlynedd yn ôl roedd y termau 'cochddu', 'cethin' (brown tywyll), 'gwinau' (browngoch) neu 'lwyd' yn cael eu defnyddio. Gwelir enghreiffitiau o hyn yn enwau'r gwyfynnod: y Brychan cochddu a'r Teigr cochddu ac yn yr hen bennill 'Ceffyl gwinau yn y cae...'

Cyfeiriadau golygu

  1. Shorter Oxford English Dictionary, (2002), Oxford University Press.
  2. Webster's New World Dictionary of the American Language: "A combination of red, black and yellow."
  3. Heller, Eva, Psychologie de la couleur' -effets et symboliiques, (2009), tud. 212-223.
  Eginyn erthygl sydd uchod am wyddoniaeth. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.
Chwiliwch am Brown
yn Wiciadur.