Bruce George

gwleidydd o Gymru

Mae Bruce Thomas George (geni 1 Mehefin 1942) yn wleidydd Llafur a wasanaethodd fel Aelod Seneddol De Walsall o Chwefror 1974 i Ebrill 2010. [1]

Bruce George
Ganwyd1 Mehefin 1942 Edit this on Wikidata
Aberpennar Edit this on Wikidata
Bu farw24 Chwefror 2020 Edit this on Wikidata
Llundain Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
Galwedigaethgwleidydd Edit this on Wikidata
Swyddaelod o Gyfrin Gyngor y Deyrnas Unedig, Aelod o 54ain Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 53ain Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 52ain Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 51ain Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 50fed Llywodraeth y DU, Aelod o 49fed Llywodraeth y DU, Aelod o 48fed Llywodraeth y DU, Aelod o 47fed Llywodraeth y DU, Aelod o 46ed Llywodraeth y DU Edit this on Wikidata
Cyflogwr
Plaid Wleidyddoly Blaid Lafur Edit this on Wikidata

Bywyd Cynnar golygu

Ganwyd George yn Aberpennar yn fab i Phyllis ac Edgar George ym 1942. Derbyniodd ei addysg yn Ysgol Ramadeg Aberpennar a Phrifysgol Cymru, Abertawe gan raddio BA mewn Damcaniaeth Gwleidyddol a Llywodraeth. Aeth ymlaen i Brifysgol Warwick lle derbyniodd gradd meistr mewn llywodraeth gymharol. [1]

Gyrfa golygu

Bu George yn ddarlithydd cynorthwyol mewn astudiaethau cymdeithasol ym Mholytechnig Morgannwg o 1964 i 1966. Bu'n darlithio mewn gwleidyddiaeth yng Ngholeg Polytechnig Manceinion o 1968 hyd gael ei benodi yn ddarlithydd uwch mewn gwleidyddiaeth yng Ngholeg Polytechnig Birmingham ym 1970. Ymadawodd a'i swydd ym Mirmingham pan gafodd ei ethol i'r senedd ym 1974. Rhwng 1970 a 1973 bu hefyd yn diwtor yn y Brifysgol Agored. [1]

Gyrfa seneddol golygu

Safodd George fel ymgeisydd seneddol am y tro cyntaf yn etholiad cyffredinol 1970 yn etholaeth Southport ond ni fu'n llwyddiannus gan ddod yn drydedd yn y pôl. Cafodd ei ethol i Dŷ'r Cyffredin yn etholiad Chwefror 1974 gan gipio'r sedd oddi wrth y Blaid Geidwadol.

Bu George yn aelod o Bwyllgor Dethol Amddiffyn Tŷ'r Cyffredin o 1979 tan 2005, yn gwasanaethu fel Cadeirydd y Pwyllgor rhwng 1997 a 2005. Daeth yn aelod o'r Cyfrin Gyngor yn 2001. [2]

Er ei fod wedi gwasanaethu fel AS am dros 36 mlynedd, ni fu George erioed ar y fainc blaen. Roedd yn gefnogwr brwd o NATO a'r angen am gyfundrefn filwrol gryf. Bu'n Arweinydd Dirprwyaeth y DU i Gynulliad Seneddol NATO ac fe'i hetholwyd yn Is-lywydd y Cynulliad ym mis Tachwedd 2007. Yn 2002, etholwyd ef yn Llywydd Cynulliad Seneddol y Sefydliad ar gyfer Diogelwch a Chydweithredu yn Ewrop, gan gael ei ailethol yn 2003. [3] Rhwng 2004 a Mehefin 2006, bu'n gwasanaethu fel Llywydd Emeritws ac Ymgynghorydd Arbennig ar Faterion y Canoldir i'r cynulliad. Mae hefyd wedi gweithredu'n rheolaidd fel monitor etholiad, yn fwyaf diweddar mewn etholiadau Arlywyddol yn yr Wcráin a Georgia.

Ar 18 Chwefror 2010, cyhoeddodd George y byddai'n sefyll i lawr ar adeg etholiad cyffredinol 2010. [4] Cafodd ei olynu yn ei etholaeth gan Valerie Vaz.

Anrhydeddau golygu

Ym Mai 2011, dyfarnwyd Medal Anrhydedd i George gan Arlywydd Georgia am ei gyfraniad sylweddol i ddemocratiaeth yn y wlad honno. Ym mis Hydref 2011, fe'i gwnaethpwyd yn Rhyddfreiniwr Anrhydeddus Bwrdeistref Walsall gan gyngor Walsall i gydnabod ei wasanaeth 36 mlynedd fel Aelod Seneddol De Walsall. Yn 2012, dyfarnwyd iddo Fedal OSCE i gydnabod ei gyfraniad at waith yr OSCE cyn, yn ystod ac ar ôl ei Lywyddiaeth o Gynulliad Seneddol yr OSCE.

Bywyd personol golygu

Mae George wedi bod yn briod â Lisa Toelle ers 1992. Mae'n Gynghorydd Gwleidyddol Anrhydeddus i'r Lleng Prydeinig Brenhinol ac yn Is-lywydd sefydliad diogelwch proffesiynol mwyaf y DU, The Security Institute. Ym 1981 bu'n ddarlithydd ymweld ym Mhrifysgol Essex. Mae'n gefnogwr i Walsall F.C. ac Athro ymweld Sefydliad Astudiaethau Cyfiawnder Troseddol Prifysgol Portsmouth. [1]

Cyhoeddiadau golygu

  • (cyd-awdur), The State of the Alliance (Westfield Press, 1987)
  • (gol.), Jane's NATO Handbook (Jane's Information Group, 1990)
  • (gol.), Jane's NATO Handbook (Jane's Information Group, 1991)
  • The British Labour Party and Defence (Greenwood Press, 1992)
  • (gyda Bruce Watson, Peter Tsouras, B. L. Cyr), Military Lessons of the Gulf War (Greenhill Books, 1993)
  • (gyda Nick Ryan), Worth Saving: The Story of the Staffordshire Regiment's Fight for Survival(Dalesman Publishing Company, 1996)
  • (gyda Mark Button), Private Security (Perpetuity Press, 2000)

Cyfeiriadau golygu

Senedd y Deyrnas Unedig
Rhagflaenydd:
Henry d'Avigdor-Goldsmid
Aelod Seneddol

De Walsall
1974–1910

Olynydd:
Valerie Vaz