Ymladdwyd Brwydr Arfderydd, yn ôl traddodiad, yn yr Hen Ogledd tua'r flwyddyn 573 rhwng Rhydderch Hael, brenin Ystrad Clud a Gwenddolau fab Ceidio.

Brwydr Arfderydd
Enghraifft o'r canlynolbrwydr Edit this on Wikidata
Dyddiad573 Edit this on Wikidata
LleoliadCumberland Edit this on Wikidata
Map
GwladwriaethYr Hen Ogledd Edit this on Wikidata

Ceir yr hanes yn y farddoniaeth a gysylltir a Myrddin yn Llyfr Du Caerfyrddin. Gyrrwyd bardd llys Gwenddoleu, Myrddin, yn wallgof gan farwolaeth ei arglwydd ac erchylltra'r frwydr. Ffôdd i Goed Celyddon, lle bu'n byw fel dyn gwyllt gan ennill iddo'i hun yr enw "Myrddin Wyllt".

Yn y gerdd gynnar 'Ymddiddan Myrddin a Thaliesin', cysylltir Gofannon fab Dôn â brwydr Arfderydd. Dywedir iddo ymladd yn y frwydr honno â saith gwaywffon.

Ceir cyfeiriad at y frwydr yn y cofnod am y flwyddyn 573 yn yr Annales Cambriae, ond yma dywedir ei bod yn frwydr rhwng Gwenddolau a meibion Eliffer. Mewn cofnod diweddarach, mae'r Annales yn enwi meibion Eliffer fel Gwrgi a Peredur.

Yn ôl Trioedd Ynys Prydain roedd Brwydr Arfderydd yn un o 'Dri Ofergad Ynys Prydain'. Mae'r triawd yn dweud mai "o achaws nyth yr ychedydd" (o achos nyth yr ehedydd) yr ymladdwyd y frwydr. Mae rhai ysgolheigion yn cynnig fod hyn yn gyfeiriad at ymrafael yn llys Caerlaverock (tref yn Swydd Dumfries yn yr Alban heddiw), sef "Caer yr Ehedydd" ar lannau'r Moryd Solway.

Llyfryddiaeth golygu

  • Kenneth Jackson, 'O achaws nyth yr ychedydd', yn Ysgrifau Beirniadol, cyfrol X (Gwasg Gee, 1977)