Brwydr Bron yr Erw

brwydr ger Clynnog Fawr yn Arfon, penrhyn Llŷn, yn 1075

Ymladdwyd Brwydr Bron yr Erw, ar safle ger Clynnog Fawr yn Arfon, penrhyn Llŷn, yn 1075 rhwng byddin Gruffudd ap Cynan a lluoedd Trahaearn ap Caradog. Fe'i cofnodir ym Mrut y Tywysogion a Hanes Gruffudd ap Cynan.[1]

Brwydr Bron yr Erw
Enghraifft o'r canlynolbrwydr Edit this on Wikidata
Dyddiad1075 Edit this on Wikidata
Cysylltir gydaGruffudd ap Cynan, Trahaearn ap Caradog Edit this on Wikidata
LleoliadArfon Edit this on Wikidata
Map
GwladwriaethCymru Edit this on Wikidata
Brwydrau'r Normaniaid a'r Saeson yng Nghymru

Hanes golygu

Ar farwolaeth Bleddyn ap Cynfyn, brenin teyrnas Powys, yn gynharach yn y flwyddyn, meddianwyd ei deyrnas gan Trahaearn, arglwydd Arwystli a Cynwrig ap Rhiwallon o Faelor. Ceisiodd Trahaearn a Chynwrig sefydlu eu hawdurdod yn Llŷn gyda'r bwriad o reoli teyrnas Gwynedd yn y pen draw.[1]

Daeth Gruffudd ap Cynan drosodd o Ddulyn gyda mintai o filwyr hur o Lychlynwyr. Glaniodd yn Abermenai a chafodd fuddugoliaethau ysgubol yn erbyn Trahaearn a Chynwrig (a laddwyd) ac yn erbyn y Normaniaid dan Robert o Ruddlan hefyd. Ond lladdwyd y Llychlynwyr a adawsai yn Llŷn a dychwelodd Gruffudd yno o Ruddlan gyda byddin gymharol fechan.[1]

Arweiniodd Trahaearn ei gefnogwyr yn Llŷn a'i fyddin o wŷr Powys, yn cynnwys ei gynghreiriad Gwrgenau ap Seisyllt, yn erbyn Gruffudd. Trechodd y cynghreiriaid fyddin Gruffudd ap Cynan ym Mron yr Erw gyda cholledion trwm.[1]

Ar ôl y frwydr ffoes Gruffudd yn ôl i Iwerddon lle cafodd ymgeledd yn Loch Garman (Saesneg: Wexford).[1]

Gweler hefyd golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. 1.0 1.1 1.2 1.3 1.4 J. E. Lloyd, History of Wales from the earliest times to the Norman conquest (Longmans, 1937).