Brwydr Bryn Derwin

Brwydr rhwng Llywelyn ein Llyw Olaf a'i frawd Owain Goch yn 1255

Brwydr rhwng Llywelyn ein Llyw Olaf a'i frawd Owain Goch tua chanol mis Mehefin 1255 oedd Brwydr Bryn Derwin. Roedd anghytuno wedi bod pwy ddylai fod yn olynydd i Dafydd ap Llywelyn Fawr. Roedd rhai yn cefnogi Owain ac eraill yn cefnogi Llywelyn.[1]

Brwydr Bryn Derwin
Mathbrwydr Edit this on Wikidata
Cysylltir gydaLlywelyn ap Gruffudd Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
LleoliadEifionydd Edit this on Wikidata
SirCymru Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau52.99°N 4.29°W Edit this on Wikidata
Map
Cyfnod1 Mehefin 1255 Edit this on Wikidata
Brwydrau'r Normaniaid a'r Saeson yng Nghymru

Hanes golygu

Mae Bryn Derwin yn ymyl Bwlch Dau Fynydd ger Clynnog Fawr yn Arfon, nid nepell o'r ffin rhwng y cantref hwnnw ac Eifionydd. Ar ôl brwydr fer ond caled daliwyd a charcharwyd Owain yng Nghastell Dolbadarn. O ganlyniad i'r frwydr hon daeth Llywelyn yn Dywysog Gwynedd gyda rheolaeth lwyr dros Wynedd Uwch Conwy.[1]

Cyfeirir at y frwydr mewn cerdd i Lywelyn gan y bardd Llygad Gŵr:

Gwelai wawr ar wŷr lliosydd,
Fal gŵr yn gwrthladd cywilydd,
A welai Lywelyn, lewenydd - dragon,
Yng nghymysg Arfon ac Eifionydd.
Nid oedd hawdd, llew aerflawdd lluydd,
Ei dreisiaw ger drws Deufynydd.[1]

Llyfryddiaeth golygu

  • J. Beverly Smith, Llywelyn ap Gruffudd: Tywysog Cymru (Caerdydd, 1986). Pennod II: 'Bryn Derwin'. Ymdriniaeth fanwl ar gefndir y frwydr a'i chanlyniadau.

Cyfeiriadau golygu

  1. 1.0 1.1 1.2 J. Beverly Smith, Llywelyn ap Gruffudd: Tywysog Cymru (Caerdydd, 1986).