Brwydr Coed Mametz

brwydr yn y Rhyfel Byd Cyntaf

Brwydr yn ystod Brwydr Gyntaf y Somme (1916) oedd Brwydr Coed Mametz. Rhoddwyd 38ain Adran (Gymreig) y Fyddin Brydeinig y gorchwyl o ymosod ar Goed Mametz. Digwyddodd yr ymosodiad dros gefnen i gyfeiriad y gogledd, a ffocysodd ar safleoedd yr Almaenwyr yn y goedwig rhwng y 7 Gorffennaf a'r 12 Gorffennaf 1916. Rhwystrwyd y milwyr Cymreig rhag cyrraedd y goedwig ar 7 Gorffennaf gan ddrylliau peiriannol yr Almaenwyr. Ni lwyddodd ymosodiadau'r 17eg Adran a ddilynodd ar 8 Gorffennaf i wella'u safle.

Brwydr Coed Mametz
Enghraifft o'r canlynolbrwydr Edit this on Wikidata
Rhan oBrwydr y Somme 1916 Edit this on Wikidata
Dechreuwyd7 Gorffennaf 1916 Edit this on Wikidata
Daeth i ben12 Gorffennaf 1916 Edit this on Wikidata
LleoliadMametz Edit this on Wikidata
Map
GwladwriaethFfrainc Edit this on Wikidata

Wedi ei gynddeiriogi gan ddiffyg symudiad y fyddin Gymreig, ymwelodd Syr Douglas Haig a Henry Rawlinson â phencadlys yr Adran Gymreig er mwyn mynegi eu hanfodlonrwydd. O ganlyniad cafodd yr Uwchfrigadydd Ivor Phillips, y swyddog a reolai'r Uned Gymreig, ei ryddhau o'i swydd.

Trosglwyddodd Haig reolaeth o'r Adran i'r Uwchfrigadydd Watts, cadlywydd y 7fed Adran, a dywedodd wrtho i ddefnyddio'r adran fel yr oedd angen. Cynlluniodd Watts ymosodiad lawn ar gyfer 9 Gorffennaf ond cymerodd y broses gynllunio ychydig amser yn fwy na'r disgwyl ac ataliwyd yr ymosodiad tan y 10 Gorffennaf 1916. Roedd y gorchymyn gweithredu yn blwmp ac yn blaen, gan ddatgan y byddai'r Adran yn ymosod ar y goedwig gyda'r nod o'i "chipio yn llwyr".

Roedd yr ymosodiad ar 10 Gorffennaf yn fwy nag unrhyw ymosodiad a geisiwyd yn flaenorol. Er gwaethaf anafiadau niferus, cyrhaeddwyd ymylon y goedwig yn fuan a dechreuodd peth brwydro gyda'r bayonet cyn iddynt fynd i mewn i'r goedwig ei hun. Cafwyd brwydo ffyrnig yn y goedwig, gyda'r Almaenwyr yn gwrthod ildio'u tir.

Aeth y 14eg Fataliwn Cymreig (Abertawe) i'r ymosodiad gyda 676 o ddynion a chollwyd dros 400 ohonynt, naill ai drwy farwolaeth neu drwy anafiadau. Dioddefodd bataliynau eraill golledion tebyg. Fodd bynnag, erbyn 12 Gorffennaf roedd yr Almaenwyr wedi eu clirio o'r goedwig. Roedd yr Adran Gymreig wedi colli tua 4,000 o ddynion, wedi'u lladd neu'u hanafu yn y brwydro ffyrnig. Ni fyddai'r Adran Gymreig yn cael ei defnyddio mewn ymosodiad torfol arall tan 31 Gorffennaf 1917.

Ym Mametz y gwnaeth y bardd rhyfel Siegfried Sassoon ei ymosodiad unigol ar ffosydd y gelyn ar 4 Gorffennaf 1916, yn ôl ei gofiannau.

Ceir disgrifiad byw o'r brwydro yng Nghoed Mametz yn In Parenthesis, nofel fodernaidd a ysgrifennwyd gan y bardd a'r artist gweledol Seisnig o dras Gymreig, David Jones, a gymrodd ran yn y frwydr.

Brwydr Coed Mametz, paentiad gan Christopher Williams, 1918

Saif y goedwig yno heddiw, wedi'i hamgylchynu gan dir amaethyddol. Gellir gweld ffosydd a lle glaniodd bomiau o hyd. Mae yno gofeb i'r 38ain Adran ger lôn gul sydd tua Lat: 50:00:36N (50.0099) Lon: 2:45:02E (2.7504). Gellir cyrraedd y man hwn trwy deithio o bentref Mametz ar yr heol D64. Mae'r gofeb ar ffurf Draig Goch sy'n rhwygo weiren bigog ar ben plinth 3 medr o uchder.

Y gofeb ger Coed Mametz