Brwydr Crug Mawr

Brwydr ym 1136, rhwng y Normaniaid a 'r Cymry. Y Cymry a orfu.

Ystyrir Brwydr Crug Mawr, a ymladdwyd ar 10 Hydref 1136, yn un o brif fuddugoliaethau Cymru; roedd yn rhan o ymdrech y Cymry i adfeddiannu Ceredigion, oedd wedi ei chipio am gyfnod byr gan yr Anglo-Normaniaid. Lladdwyd rhwng 300 a 3,000 o Anglo-Normaniaid. Saif Crug Mawr tua 3 km i'r gogledd-ddwyrain o Aberteifi.

Brwydr Crug Mawr
Enghraifft o'r canlynolbrwydr Edit this on Wikidata
DyddiadHydref 1136 Edit this on Wikidata
Rhan oYmosodiad y Normaniaid ar Gymru Edit this on Wikidata
LleoliadAberteifi Edit this on Wikidata
Map
GwladwriaethCymru Edit this on Wikidata
Brwydrau'r Normaniaid a'r Saeson yng Nghymru
Lleoliad Brwydr Crug Mawr

Bu farw Harri I, brenin Lloegr ar 1 Rhagfyr 1135 a chafwyd cyfnod a elwir yn Saesneg yn 'Gyfnod yr Anarchiaeth', pan oedd Lloegr mewn dipyn o anhrefn. Manteisiodd y Cymry ar hyn a dechreuodd gwrthryfel Gymreig 1136 yn erbyn y Normanaid yn ne Cymry pan enillodd y Cymry fuddugoliaeth ar 1 Ionawr 1136, gan ladd tua 500 o Normaniaid mewn brwydr rhwng Llwchwr ac Abertawe. Yna, lladdwyd yr arglwydd Normanaidd Richard Fitz Gilbert de Clare, dri mis wedyn, mewn rhagod yng Nghoed Gwryne ger y Fenni; fe'i lladdwyd gan wŷr Iorwerth ab Owain, ŵyr Caradog ap Gruffydd. Brwydr Crug Mawr, a ymladdwyd yn Hydref y flwyddyn honno oedd y drydedd fuddugoliaeth.[1] Yn filitariadd, yn ôl ymchwiliad 2009 i'r ffynonellau gwreiddiol, mae i'r frwydr hon 'arwyddocâd eithriadol' oherwydd cryfder y fyddin Gymreig - y mwyaf ers buddugoliaeth Cadwgan ap Bleddyn yng Nghoed Yspwys yn 1093.[2]

Disgrifiodd Gerallt Gymro garnedd ar gopa Crug Mawr o gofio'r frwydr.[3] Ceir cofnod o'r garnedd hon ar fap 1810 yr OS ond diflanod erbyn 1888, o bosib oherwydd aredig y tir neu fwyngloddio. Yn 1810 ysgrifennodd Samuel Meyrick fod y garnedd yn dal yno; ceir cofnod ohoni hyd at ganol y 19g.[4] Nid ar chwarae bach mae hepgor tystiolaeth Gerallt mai yma oedd lleoliad y frwydr; dylid cofio i'w dad William fitz Odo de Barri fod yno'n filwr a dau o'i ewyrthod: Maurice a William fitz Gerald. Ceir bryncyn arall 300m i'r gogledd o Grug Mawr (a elwir mewn dogfennau Saesnig yn 'Banc-y-Warren'), sef 'Cnwc y Saeson', ac sydd o bosib â chysylltiad â'r frwydr.[4]

Digwyddiadau'n arwain tuag at y frwydr golygu

Cyfeirir at y frwydr yn nhestun Peniarth MS 20 o Frut y Tywysogion fel 'y Sadwrn Du' ac yn Annales Cambriae fel Blake Saterndey. Noda Chronicle of John of Worcester i'r frwydr ddigwydd 'yn yr ail wythnos o Hydref, 1136', h.y. 10 Hydref.

Ymatebodd Gwynedd i'r gwrthryfel drwy yrru byddin dan arweiniad Owain Gwynedd a Cadwaladr ap Gruffudd, meibion y Brenin Gruffudd ap Cynan, i Geredigion. Cipiasant nifer o gestyll Ceredigion, gan gynnwys Castell Aberystwyth, Castell Dineirth (SN 4949 6237) a Chaerwedros (SN 3761 5577), cyn dychwelyd adref gyda'r ysbail. Tua Gŵyl Sant Mihangel ymosodasant ar Geredigion eto, a gwnaethant gynghrair gyda Gruffydd ap Rhys, Tywysog Deheubarth. Ymdeithiodd byddin Gwynedd a Deheubarth tuag Aberteifi a oedd yn ôl Brut y Tywysogion "yn cynnwys cannoedd o wŷr meirch"; ymhlith capteiniaid y fyddin Gymreig roedd Madog ap Idnerth, arglwydd Cynllibwg a Hywel ap Maredudd o Gantref Bychan a'i ddau fab Maredudd a Rhys ap Hywel). Gruffydd ap Rhys oedd prif arweinydd y fyddin.[5]

Ger Crug Mawr, ddwy filltir y tu allan i Aberteifi, wynebwyd y Cymry gan fyddin o Anglo-Normaniaid, gan gynnwys milwyr Richard de Clare, meibion Gerald of Windsor a holl arglwyddiaethau Normanaidd De Cymru a nifer o Fflemiaid. Arweiniwyd y llu, o dros 3,000, gan Robert fitz Martin, arglwydd Cemais; Robert fitz Stephen, cwnstabl Castell Aberteifi; a William a Maurice fitz Gerald, ewythrod Gerallt o Windsor.

Y frwydr golygu

Yn ôl y cofnod manwl Anglo-Normanaidd Gesta Stephani, a sgwennwyd yn y 1140au disgrifir i'r fyddin Gymreig:

...divided themselves into three bands methodically and with a view to war, and surrounded on three sides and routed Richard’s own knights with the addition of some others who to the number of three thousand, including footsoldiers, had assembled to help them from the neighbouring towns and castles.

A'r Gesta Stephani rhagddo i nodi i'r frwydr ddigwydd ger y bont dros Afon teifi a ddymchwelwyd o ganlyniad i'r frwydr a noda ymhellach:

It was piteous to see crowds passing backwards and forwards across a bridge formed by a horrible mass of human corpses and horses drowned in the river.

Felly, wedi ymladd caled, ffôdd y Normaniaid, ac ymlidiwyd hwy cyn belled ag Afon Teifi. Ceisiodd llawer o'r ffoaduriaid groesi'r bont dros yr afon, ond torrodd dan y pwysau, a boddwyd llawer ohonynt. Dywedwyd fod cymaint o gyrff dynion a cheffylau nes atal llif yr afon. Ffôdd eraill i dref Aberteifi, ond cipiwyd y dref gan y Cymry a'i llosgi. Fodd bynnag, llwyddodd Robert fitz Martin i gadw gafael ar y castell, yr unig un oedd yn parhau yn nwylo'r Normyn erbyn diwedd y gwrthryfel. Yn ôl yr Annales Cambriae, yma o flaen y castell y cychwynodd y brwydro. Llosgwyd y dref Saesnig ac yn ôl Gesta Stephani o Gaerloyw ac atodwr y Chronicle of John of Worcester cymerwyd 10,000 o wragedd gweddw Seisnig yn garcharorion gan y Cymry.

Ceir cerdd o waith Cynddelw Brydydd Mawr (fl. c. 1155-1200) ac a sgwennwyd rhwng 1157 a 1167 o'r enw Arwyrain Owain Gwynedd a gyfansoddwyd rhwng 1157 a 1167 sy'n cyfeirio at y frwydr.

Maint y byddinoedd golygu

Cofnodir yn Peniarth MS 20 a fersiwn RBH o'r Brut fod byddinoedd Owain ac Cadwaladr, yn unig, yn cynnwys a numerous army of picked warriors, about 6,000 fine infantry and 2,000 mailed horsemen most brave and ready for battle, ond ni sonir am y rhan arall o'r fyddin Gymreig. Yn ôl Gesta Stephani, roedd y fyddin Anglo-Normanaidd yn cynnwys three thousand, including footsoldiers (ad tria milia cum peditum).

Lladdwyd o amglych teir mil o Anglo-Normaniaid yn ôl Peniarth MS 20 a fersiwn RBH o'r Brut, ond dywed Cynddelw mai trychant celain (300) oedd y nifer. Rhaid nodi felly i rhwng 300 a 3,000 gael eu lladd.

Wedi'r frwydr golygu

Daeth Ceredigion yn rhan o Deyrnas Gwynedd am gyfnod wedi'r frwydr hon, nes i Rhys ap Gruffydd, tywysog Deheubarth, ei hawlio flynyddoedd yn ddiweddarach. Cafwyd hyd i nifer o benglogau [6] yn y 1900au ger pont Aberteifi, gydag olion bwyelli arnynt.

Gweler hefyd golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. Gwefan meysyddbrwydro.cbhc.gov.uk; adalwyd 22 Gprffennaf 2018.
  2. Mae ymateb y Saeson i'r frwydr hon yn eithriadol e.e. gweler ysgrif Gesta Stephani, gol. & traws. K. R. Potter & R.H.C. Davis (Rhydychen, 1976), The Chronicle of John of Worcester, gol. P. McGurk (Rhydychen 1998) III, 221-223 a R.R. Darlington (ed.), ‘Winchcombe Annals, 1049-1181’, in A Medieval Miscellany for Doris Mary Stenton, gol. P. M Barnes & C.F. Slade, Pipe Rolls Society Vol. 36 (Llundain, 1960), 118.
  3. Chronicle of John of Worcester, gol. McGurk, III, 220-1.
  4. 4.0 4.1 S. Davies, Welsh Military Institutions 633-1283 (Caerdydd, 2004), 129n.
  5. Gweler testun 'C' o'r Annales Cambriae a gwaith Gerallt Gymro.
  6. E.M. Pritchard, Cardigan Priory in the Olden Days (London 1904), 35.