Un o frwydrau y Rhyfel Byd Cyntaf yn y Dwyrain Canol oedd Brwydr Gallipoli, weithiau Ymgyrch y Dardanelles, (Twrceg: Çanakkale Savaşları) a ymladdwyd ar benrhyn Gallipoli (Twrci) rhwng 25 Ebrill 1915 hyd 9 Ionawr 1916. Glaniodd byddin y cyngheiriaid, oedd yn cynnwys carfan gref o'r Ymerodraeth Brydeinig, yn enwedig milwyr o Awstralia a Seland Newydd, ynghyd â milwyr Ffrengig, ar y penrhyn gyda'r bwriad o gipio Istanbul, prifddinas Ymerodraeth yr Otomaniaid. Byddai hyn wedi agor y culfor sy'n arwain i'r Môr Du, a'i geneud yn bosibl i yrru adnoddau rhyfel i gynorthwyo Rwsia.

Brwydr Gallipoli
Enghraifft o'r canlynolymgyrch filwrol, ymosodiad milwrol Edit this on Wikidata
Dyddiad9 Ionawr 1916 Edit this on Wikidata
Rhan oy Rhyfel Byd Cyntaf yn y Dwyrain Canol Edit this on Wikidata
Dechreuwyd25 Ebrill 1915 Edit this on Wikidata
Daeth i ben9 Ionawr 1916 Edit this on Wikidata
LleoliadGallipoli Edit this on Wikidata
Map
Gwladwriaethyr Ymerodraeth Otomanaidd Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Brwydr Gallipoli Ebrill 1915

Wedi misoedd o ymladd caled yn erbyn byddin yr Ymerodraeth Otomanaidd, gorfodwyd y cyngheiriad i encilio yn Ionawr 1916, wedi diddoef colledion mawr. Daeth arweinydd y Twrciaid, Mustafa Kemal Atatürk, yn arwr cenedlaethol, a gwelir y frwydr fel dechrau'r broses a arweiniodd at annibyniaeth Twrci wyth mlynedd yn ddiweddarach dan Atatürk.

Cyfeiriadau golygu

Gweler hefyd golygu