Brwydr Maes Stoke

Brwydr olaf Rhyfeloedd y Rhosynnau yw Brwydr Maes Stoke, a ymladdwyd ar 16 Mehefin 1487 rhwng y Lancastriaid a'r Iorciaid. Ymladdwyd y frwydr hon, felly, ddwy flynedd wedi Brwydr Maes Bosworth, lle trechodd Harri Tudur y brenin Richard III. Dyma ymdrech olaf yr Iorciaid i geisio adfeddiannu Coron Lloegr oddi wrth Harri, gan orseddu Lambert Simnel ar ran yr Iorciaid. Methiant fu'r ymdrech, fodd bynnag, a lladdwyd bron y cwbwl o'r Iorciaid mewn brwydr fwy hyd yn oed na Brwydr Bosworth, gyda mwy o golledion hefyd.

Brwydr Maes Stoke
Enghraifft o'r canlynolbrwydr Edit this on Wikidata
Dyddiad16 Mehefin 1487 Edit this on Wikidata
Rhan oRhyfeloedd y Rhosynnau Edit this on Wikidata
LleoliadEast Stoke Edit this on Wikidata
Map
GwladwriaethTeyrnas Lloegr Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Map yn dangos y prif frwydrau
Wakefield
St. Albans
Ludford Bridge
Mortimer's Cross
Northampton
Llundain
Harlech
Kingston upon Hull
Berwick upon Tweed
Worksop
Efrog
Calais
Coventry
Caer
– Brwydr Wakefield; – brwydrau eraill;
– mannau eraill
Cofeb i frwydr Maes Stoke a saif ar ei gyllell yn erbyn wal Eglwys Sant Oswallt, East Stoke, Swydd Nottingham.

Lleolwyd maes y gad ychydig i'r de o bentref bychan East Stoke, yn Swydd Nottingham.

Cyfeiridau golygu