Brwydr Meicen (Hatfield)

brwydr a ymladdwyd c. 632 rhwng y Cymry a'r Eingl-Sacsoniaid

Brwydr a ymladdwyd oddeutu'r flwyddyn 632 oedd Brwydr Meicen (neu Brwydr Meigen) (Meigen: Heathfield yn Saesneg, sef Hatfield Chase yn Swydd Efrog yn ôl pob tebyg). Dyma'r cofnod cyntaf i Gymry (neu Frythoniaid fel y'u gelwyd yr adeg yma) a Saeson ymuno mewn cynghrair yn erbyn brenin Eingl-Sacsonaidd.

Brwydr Meicen
Battle of Hatfield Chase

Ffenestr liw gyda llun Edwin yn Eglwys y Santes Fair, Sledmere, Swydd Efrog.
Dyddiad 12 Hydref 633 AD
Lleoliad Hatfield Chase, Swydd Efrog
Canlyniad Buddugoliaeth Gwynedd–Mersia
Rhyfelwyr
Gwynedd, Mersia Deifr a Brynaich
Arweinwyr
Cadwallon ap Cadfan
Penda
Eowa?
Edwin
Osfrith
Eadfrith (daliwyd)

Etifeddodd Cadwallon ap Cadfan deyrnas Gwynedd ar farwolaeth ei dad, Cadfan ap Iago. Ymosododd Edwin, brenin Deifr (Northumbria heddiw) ar Wynedd gan gyrraedd cyn belled ag Ynys Môn, gan orfodi Cadwallon i ffoi i Ynys Lannog ac yna i Iwerddon. Yn ôl yr Annales Cambriae digwyddodd hyn yn 629.

Daeth Cadwallon i gytundeb â Penda, brenin Mersia, ac ymosododd y ddau ar Northumbria. Lladdwyd Edwin ym Mrwydr Meicen.[1] Dyma'r cofnod cyntaf i Gymry a Saeson ymuno mewn cynghrair fel hyn.

Gweler hefyd golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. John Davies, Hanes Cymru (Penguin, 1990), t.62