Ymladdwyd Brwydr Plassey ar 23 Mehefin, 1757, ger tref Plassey ym Mengal, gogledd-ddwyrain India. Curodd y lluoedd Prydeinig dan y cadfridog Robert Clive ("Clive o India") fyddin Surajah Dowlah, Nawab Bengal.

Brwydr Plassey
Delwedd:Clive.jpg, The Monument of Battle of Plassey 06.jpg
Enghraifft o'r canlynolbrwydr Edit this on Wikidata
Dyddiad23 Mehefin 1757 Edit this on Wikidata
Rhan oy Rhyfel Saith Mlynedd Edit this on Wikidata
LleoliadPalashi Edit this on Wikidata
Map
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Clive a Mir Jafar ar ôl Brwydr Plassey

Roedd y Nawab ac eraill wedi codi mewn gwrthryfel yn erbyn y Prydeinwyr a Chwmni Dwyrain India gan gipio Calcutta. Ail-gipiodd Clive y ddinas honno, lle carcharwyd tua chant o bobl yn y "Twll Du" enwog, o ddwylo'r gwrthryfelwyr cyn mynd yn ei flaen i gwrdd â'r gwrthryfelwyr ger Plassey. Un o'r rhesymau am ei fuddugoliaeth oedd brad rhai o gadfridogion y nawab dan arweinyddiaeth Mir Jafar a aethant drosodd i'r ochr fuddugol yn ystod y frwydr.

Canlyniad pwysicaf y frwydr oedd cadarnhau ac ymestyn rheolaeth Prydain ar ddwyrain India, yn wyneb cystadleuaeth gan Ffrainc (roedd Prydain a Ffrainc yn ymladd y Rhyfel Saith Mlynedd yn Ewrop yr adeg honno yn ogystal). Gosodwyd un o gonglfeini'r Ymerodraeth Brydeinig, sef reolaeth ar is-gyfandir India i gyd erbyn diwedd y 18g.

Ffynhonnell golygu

Gweler hefyd golygu