Brwydr y Somme 1916

Un o frwydrau mwyaf y Rhyfel Byd Cyntaf oedd Brwydr y Somme pan laddwyd neu anafwyd mwy na miliwn a hanner o filwyr. Ymladdwyd y frwydr rhwng Gorffennaf a Thachwedd 1916. Ceisiodd y Cyngheiriaid, unedau Prydeinig yn bennaf ond gyda rhai Ffrengig, dorri trwy'r llinellau Almaenig ar hyd ffrynt 12 milltir (19 km) o hyd i'r gogledd a'r de o Afon Somme yng ngogledd Ffrainc.

Brwydr y Somme 1916
Enghraifft o'r canlynolbrwydr Edit this on Wikidata
Dyddiad18 Tachwedd 1916 Edit this on Wikidata
Rhan oFfrynt y Gorllewin, y Rhyfel Byd Cyntaf Edit this on Wikidata
Dechreuwyd1 Gorffennaf 1916 Edit this on Wikidata
Daeth i ben17 Tachwedd 1916 Edit this on Wikidata
LleoliadAfon Somme Edit this on Wikidata
Map
GwladwriaethFfrainc Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Ffos Catrawd Swydd Gaer yn Ovillers-La Boisselle, Gorffennaf 1916

Cofir y frwydr yn bennaf am ei diwrnod cyntaf, 1 Gorffennaf 1916, pan gollodd y fyddin Brydeinig 67,470 o filwyr, 19,240 wedi eu lladd; y nifer uchaf yn ei hanes.

Amcan y frwydr oedd i ddenu lluoedd yr Almaen oddi ar Frwydr Verdun ond mewn gwirionedd collwyd mwy ar y Somme nag yn Verdun.

Gweler hefyd golygu


  Eginyn erthygl sydd uchod am frwydr. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.
     Eginyn erthygl sydd uchod am hanes Ffrainc. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.