Brwyniad Conwy
Llun y rhywogaeth
Dosbarthiad gwyddonol
Teyrnas: Animalia
Ffylwm: Chordata
Dosbarth: Actinopterygii
Urdd: Osmeriformes
Teulu: Osmeridae
Genws: Osmerus
Rhywogaeth: O. eperlanus
Enw deuenwol
Osmerus eperlanus
(Linnaeus 1758)

Pysgodyn sy'n byw yn y môr ac mewn dŵr croyw ac sy'n perthyn i deulu'r Osmeridae ydy'r brwyniad Conwy sy'n enw gwrywaidd; lluosog: brwyniaid Conwy (Lladin: Osmerus eperlanus; Saesneg: European smelt).

Mae ei diriogaeth yn cynnwys Ewrop ac mae i'w ganfod ar adegau yn aberoedd ac arfordir Cymru.

Ar restr yr Undeb Rhyngwladol dros Gadwraeth Natur (UICN), caiff y rhywogaeth hon ei rhoi yn y dosbarth 'Heb ei gwerthuso' o ran niferoedd, bygythiad a chadwraeth gan nad oes data digonol.[1]

Llên gwerin golygu

Ar yr olwg gyntaf mae’n anodd gweld cysylltiad rhwng brwyniad (smelt neu sparling, pysgodyn a geir yn enwog yn yr afon Conwy), â’r santes o Iwerddon. Ond yn ôl y chwedl mae yna berthynas rhwng y Santes Ffraid - (Santes Bride neu Bridget) yn Saesneg â physgod afon Conwy. Mae Afon Conwy, ers canrifoedd lawer, wedi cael ei chysylltu â’r pysgodyn yma. Yn un o’i lythyrau mae Lewis Morris - un o Forrisiaid Môn - yn cyfeirio at chwedl sy’n sôn am Santes Ffraid. Yn ôl y stori fe grewyd y Santes o frwyniaid afon Conwy ac fe sefydlwyd eglwys ar Ian yr afon, eglwys roddodd ei henw i bentref a adnabyddir heddiw fel Llansantffraid Glan Conwy.
Chwefror laf yw diwrnod arbennig Santes Ffraid gan mai dyma’r dyddiad, yn ôl y Parch. Robert Williams, yn ei lyfr “History of Aberconwy” y bydd y pysgod yn cyrraedd afon Conwy. Ym mis Mawrth byddant yn grawnu, [claddu] (spawn) yn yr afon, ond byr yw eu arhosiad - ychydig wythnosau yn unig. Maent yn amrywio - o ran maint ond anaml y ceir rhai mwy na throedfedd o hyd ac yn pwyso tua hanner pwys. Mae’r pen yn dryloyw a’r croen mor denau fel, o dan y meicroscop, gellir gweld y gwaed yn cylchredeg. Ei arogl yw ei brif nodwedd gan ei fod yn arogli yn debyg i frwyn a dyna sy’n egluro’r enw Cymraeg - brwyniad. Ystyrir y blas yn ddanteith-fwyd, ‘caviare’ y Cymro, ac arferai’r hen bysgotwyr gyflwyno rhai o’r pysgod i uchelwyr yr ardal ar gyfer paratoi pryd bythgofiadwy. Pan oedd Lewis Morris yn casglu gwybodaeth am hanes Dyffryn Conwy ar gyfer “Celtic Remains”, llawysgrif sy’n dal heb ei phrintio yn y Llyfrgell Genedlaethol fe gysylltodd â Dafydd Jones o Drefriw. Pwrpas y llythyr oedd gofyn i’r gŵr o Drefriw am hanes y brwyniad. Gwnaed ymholiadau ymysg pysgotwyr lleol a chynigiodd un ohonynt, Hywel Gwaederw o Drefriw blatiad o frwyniaid iddo i’w hanfon i Lewis Morris. Anfonwyd y pysgod i Gaergybi ond yn anffodus, erbyn iddynt gyrraedd pen eu taith roedden nhw wedi drewi! Fu Lewis Morris fawr o dro yn gadael i Dafydd Jones wybod mai gwybodaeth am y pysgod oedd arno eisiau ac nid pryd o fwyd! Stori ryfedd, ar lawer ystyr, yw’r un am greu Santes allan o bysgodyn. Mae yna nifer o eglwysi yn dwyn yr enw St Bride hyd a lled Cymru a Lloegr ond hyd y gwyddom ‘does dim chwedl arall debyg i’r un sy’n cysylltu Llansantffraid ag afon Conwy. Yn hanesion a thraddodiadau yr ‘Hen Ffydd’, sef Eglwys Rufain, mae digon o arwyddion ac addurniadau yn cysylltu Cristnogaeth gynnar a physgod. Mae’r Testament Newydd, Llyfr yr Actau’n arbennig, yn cyfeirio at bysgod yn rhai o’r gwyrthiau ond does dim byd tebyg i’r chwedl am yr wyrth o greu y Santes Ffraid allan o frwyniad. [2]

Gweler hefyd golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. Gwefan www.marinespecies.org adalwyd 4 Mai 2014
  2. Stan Wicklen (o bapur bro Y Pentan, gyda chaniatad)