Carfan o anghydffurfwyr Cristnogol radicalaidd a flodeuai yn oes Gwerinlywodraeth Lloegr yng nghanol yr 17g oedd y Brygowthwyr, Ranteriaid neu Rantars. Fe'i cysylltir ag antinomiaeth ac holldduwiaeth.

Brygowthwyr
Enghraifft o'r canlynolChristian movement Edit this on Wikidata

Yn yr 19g, rhoddwyd yr enw Prygowthwyr[1] neu Ranters ar aelodau'r Methodistiaid Cyntefig i ddilorni gweiddi brwdfrydig gan bregethwyr yr enwad hwnnw.

Cyfeiriadau golygu

  1.  prygawthwr. Geiriadur Prifysgol Cymru. Adalwyd ar 3 Medi 2018.
  Eginyn erthygl sydd uchod am Gristnogaeth. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.
     Eginyn erthygl sydd uchod am hanes Lloegr. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.