Brymbo

pentref a chymuned ym mwrdeistref sirol Wrecsam

Pentref a chymuned ym mwrdeistref sirol Wrecsam, Cymru, yw Brymbo[1][2] ("Cymorth – Sain" ynganiad ). Saif ar gyrion Wrecsam a ward o'r dref honno.

Brymbo
Mathpentref, cymuned Edit this on Wikidata
Poblogaeth4,836 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirWrecsam Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Arwynebedd1,026.65 ha Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau53.0761°N 3.0506°W Edit this on Wikidata
Cod SYGW04000892 Edit this on Wikidata
Cod OSSJ297537 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AC/auKen Skates (Llafur)
AS/auSimon Baynes (Ceidwadwyr)
Map

Mae'r gymuned yn cynnwys y ddau bentref Tanyfron a Bwlchgwyn a sawl pentrefan eraill.

Bu Melin Dur Brymbo yn gyflogwr pwysig yn yr ardal tan iddo gau yn ddiweddar a chafwyd gweithfeydd haearn a glo yno hefyd.

Ceir eglwys yn y pentref, sef Eglwys Fair (1872), a chapel Y Tabernacl Tun (Methodistiaid Saesneg). Trowyd capel gwreiddiol Y Tabernacl yn floc o fflatiau.

Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Ken Skates (Llafur) a'r Aelod Seneddol yw Simon Baynes (Ceidwadwyr).[3][4]

Yr enw golygu

Yn ei lyfr Yn Ei Elfen, mae'r diweddar Athro Bedwyr Lewis Jones yn dangos mai llygriad o'r enw Bryn-baw ydyw Brymbo.[5] Does neb yn gwybod pam y cafodd yr enw.

Cofnodir yr enghraifft gynharaf o'r enw "Brynbaw" mewn dogfen a ysgrifennwyd yn 1391 (cofnodir y Seisnigiad Brynbawe), ac mae'r cofnod cynharaf o'r sillafiad cyfoes yn dyddio o 1416. Mae'n bosib mai cyfeirio mae'r enw at domen o wastraff o'r gweithfeydd mwyngloddio gerllaw.[6] Ar y llaw arall, ceir yr enw Brymbo mewn rhannau eraill o Gymru lle nad oes gweithfeydd a mwyngloddio e.e. Brymbo ar gwr Eglwysbach, Sir Conwy. Newidiwyd yr 'n' i 'm' fel a wnaed yn yr enw 'y Bermo'.

Dyn Brymbo golygu

Yn 1958 gwnaed darganfyddiad archaeolegol pwysig gan weithwyr yn tyllu clawdd, sef gweddillion dyn o Oes yr Efydd a gafodd ei lysenwi yn "Ddyn Brymbo". Tybir iddo farw tua 1600 C.C..[7]

 
Bedd Dyn Brymbo; angueddfa Wrecsam

Pobl o'r Brymbo golygu

Tom Price (1852-1909), Prif Weinidog De Awstralia

Cyfrifiad 2011 golygu

Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[8][9][10][11]

Cyfrifiad 2011
Poblogaeth cymuned Brymbo (pob oed) (4,836)
  
100%
Y nifer dros 3 oed sy'n siarad Cymraeg (Brymbo) (639)
  
14%
:Y ganran drwy Gymru
  
19%
Y nifer sydd wedi'u geni yng Nghymru (Brymbo) (3424)
  
70.8%
:Y ganran drwy Gymru
  
73%
Y nifer mewn gwaith rhwng 16 a 74 oed(Brymbo) (514)
  
25.5%
:Y ganran drwy Gymru
  
67.1%

Cyfeiriadau golygu

  1. "Rhestr o Enwau Lleoedd Safonol Cymru". Llywodraeth Cymru. 13 Hydref 2021.
  2. British Place Names; adalwyd 16 Tachwedd 2021
  3. Gwefan y Cynulliad;[dolen marw] adalwyd 24 Chwefror 2014
  4. Gwefan parliament.uk; adalwyd 24 Chwefror 2014
  5. Yn ei Elfen (Gwasg Garreg Gwalch, 1992), t. 29.
  6. Dictionary of Place-names of Wales, Gwasg Gomer, 2007.
  7. Gwefan Angueddfa Sirol Wrecsam; adalwyd 13 Medi 2017.
  8. "Ystadegau Allweddol ar gyfer Cymru". Swyddfa Ystadegau Gwladol. Cyrchwyd 2012-12-12.. Poblogaeth: ks101ew. Iaith: ks207wa - noder mae'r canran hwn yn seiliedig ar y nier sy'n siarad Cymraeg allan o'r niferoedd sydd dros 3 oed. Ganwyd yng Nghymru: ks204ew. Diweithdra: ks106ew; adalwyd 16 Mai 2013.
  9. Canran y diwaith drwy Gymru; Golwg 360; 11 Rhagfyr 2012; adalwyd 16 Mai 2013
  10. Gwefan Swyddfa Ystadegau Gwladol; Niferoedd Di-waith rhwng 16 a 74 oed; adalwyd 16 Mai 2013.
  11. Gwefan Llywodraeth Cymru; Ystadegau Economaidd Allweddol, Tachwedd 2010; Mae'r gyfradd gyflogaeth ymhlith pobl 16 – 64 oed yng Nghymru yn 67.1 y cant.; adalwyd 31 Mai 2013[dolen marw]

Dolenni allanol golygu